Mae’r cerddor talentog o Lanrug, magi., wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 9 Ebrill.
‘Tyfu’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Ski Whiff ac mae’n gân ffynci, fywiog sy’n gweddu’n berffaith i’r naws ar hyn o bryd wrth i ni groesawu’r gwanwyn.
Hon ydy ei thrydedd sengl ers iddi ddechrau perfformio dan yr enw magi. – cyn hyn mae hefyd wedi perfformio a rhyddhau cerddoriaeth dan yr enw Magi Tudur, gan gynnwys ryddhau’r EP ‘Gan Bwyll’ yn 2016.
Bu Magi hefyd yn aelod o’r grŵp o Arfon, Y Galw, a ryddhaodd sengl fel rhan o gynllun Clwb Senglau’r Selar rai blynyddoedd yn ôl.
Rhyddhaodd ei sengl gyntaf dan yr enw magi., sef ‘Blaguro’, nôl ym mis Awst 2020, gan ddilyn hynny gydag ail sengl, ‘Golau’, ym mis Rhagfyr.
Mae’r sengl ddiweddaraf yn drac hamddenol hyfryd sy’n adlewyrchu’r cynnydd mewn hunan ymwybyddiaeth a ddaeth i Magi yn dilyn y cyfnod clo. Yn ôl y label, mae’r gân hafaidd yn swnio fel crair coll o 1982.
I gyd-fynd â dyddiad rhyddhau’r sengl, mae fideo sesiwn o magi. yn perfformio ‘Tyfu’ wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau digidol cyfres Lŵp, S4C.