Nodwyd partneriaeth newydd rhwng ieuenctid Cymru ac Iwerddon ddydd Iau diwethaf (7 Ionawr) wrth ryddhau’r fideo cerddoriaeth cyntaf sy’n cyfuno canu yn yr iaith Gymraeg a’r iaith Wyddeleg.
Ffrwyth cyd-weithio rhwng mudiad Urdd Gobaith Cymru a phrosiect ieuenctid TG Lurgan yn Iwerddon ydy’r fideo cerddoriaeth newydd.
Yn y fideo mae pobl ifanc o’r ddwy wlad yn canu cân o’r enw ‘Golau’n Dallu / Dallta ag na Solise’ sy’n addasiad o’r gân boblogaidd ‘Blinding Lights’ gam The Weeknd.
Nod y fideo a’r prosiect ydy cyflwyno’r ddwy iaith leiafrifol i gynulleidfa fyd-eang. Ac o fewn wythnos o ddiwedd cyfnod pontio Brecsit, mae’r Urdd a TG Lurgan yn dangos fod ffurfio partneriaeth rhwng y ddwy wlad yn hollbwysig er mwyn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc gael ffynnu.
Mae TG Lurgan yn sefydliad sy’n rhyddhau fersiynau Gwyddelig o ganeuon cyfoes ar eu sianel YouTube ac wedi denu dros 44 miliwn o wylwyr hyd yn hyn – ffaith sy’n eu gwneud yn sianel iaith leiafrifol fwyaf poblogaidd y byd.
Yn ôl yr Urdd mae’r ddau sefydliad yn rhannu’r un weledigaeth o arddangos y ddwy iaith fel rhai deinamig a pherthnasol, gan roi hyder i bobl ifanc eu defnyddio’n eang yn eu bywydau pob dydd.
Mentro a thrio
Mae 28 o bobl ifanc o’r ddwy wlad wedi cyfrannu eu lleisiau o gartref gan dderbyn cyfarwyddiadau gan y cyfarwyddwr fideo Griff Lynch, sydd wedi mynd ati i greu’r fideo.
“Mae gan Gymru a’r Iwerddon orffennol ddiwylliannol gerddorol hynod gyfoethog, ond bob hyn a hyn, mae gofyn i ni fentro a thrio pethau newydd,” meddai Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis.
“Nid ydym wedi mynd ati i gyhoeddi cân ‘Geltaidd’ draddodiadol. Yn hytrach, rydym wedi rhyddhau fersiwn o gân gyfredol – a hynny mewn arddull sydd i’w chlywed bob dydd.
“Dyma’n ffordd o ddangos fod yr ieithoedd yn esblygu, fel ag yr ydym ni fel pobl yn esblygu. Edrychwn ymlaen yn fawr at gydweithio gyda TG Lurgan ar y prosiect nesaf.
“Waeth beth fo’r hinsawdd wleidyddol a sefyllfa Cymru y tu allan i Ewrop, fel sefydliad rydym ni’n awyddus i sicrhau fod ein pobl ifanc yn parhau i fwynhau profiadau unigryw fel hyn gyda chymheiriaid ledled y byd.”
Yng nghanol y clo mawr, daeth dawnsio i gyfeiliant ‘Blinding Lights’ yn un o heriau mwyaf poblogaidd yr ap TikTok. Dyma’r cyntaf o dair cân i’w rhyddhau gan y cyd-gynhyrchiad dros y flwyddyn nesaf, ac mae’r gwaith yn rhan o strategaeth ryngwladol yr Urdd.