Rhyddhau’r gyntaf o dair sengl gan Carys Eleri

Mae’r gantores a chomediwraig, Carys Eleri, wedi rhyddhau’r gyntaf o gyfres o dair sengl fydd yn ymddangos ganddi dros yr wythnosau nesaf.

Rhyddhawyd y trac comedi ‘He Dumped Me On Zoom’ ddydd Gwener diwethaf, 23 Ebrill ac fel mae’r teitl yn awgrymu, mae’r gân yn sôn am ddynes sy’n cael ei dympio ar Zoom ac wrth gwrs – mae Carys yn mynd ati i dynnu coes y dechnoleg.

Bydd y senglau’n cael eu rhyddhau bob pythefnos wrth i ni ymlwybro allan o gyfnod clo arall, gyda’r ail drac, ‘I Love Nature Now’, mewn pythefnos, ac yna ‘Water Closet’ wedi hynny.

Cafodd y traciau i gyd eu cynhyrchu gan Branwen Munn (4Hero), a lwyddodd i ddal y byd glitchy ar-lein drwy ei gitâr byw. Mae fideo ar gyfer y sengl hefyd, a gafodd ei ffilmio a golygu gan Griff Lynch (Yr Ods) a Dafydd Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog). Mae Carys Eleri wedi bod yn ffynhonnell o gysur ac adloniant i lawer dros y flwyddyn ddiwethaf, yn rhoi chwerthin a llawenydd i’r rhai oedd eu hangen yn ystod yr amseroedd hynod heriol.

Mae’r senglau’n dod o gyfres o draciau comedi a alwyd yn ‘Lockdown Dandelion and Burdock’ gan Carys Eleri a grëwyd yn arbennig ar gyfer BBC Gŵyl 2021 Festival fel ffilm gerddoriaeth fer, ac mae’r caneuon hefyd yn cael eu cynnwys yn rhan o BBC Radio Wales Live from Lockdown 2′.