‘Seagal’ – degfed Sengl Sywel Nyw yn 2021

‘Seagal’ ydy degfed sengl Sywel Nyw o’r flwyddyn, ac fe’i rhyddhawyd ddydd Gwener diwethaf, 29 Hydref.

Dyma’r sengl ddiweddaraf fel rhan o gynllun uchelgeisiol Sywel Nyw, sef prosiect unigol Lewys Wyn (Yr Eira) i ryddhau un bob mis gan gyd-weithio gydag artist gwahanol bob tro.

Y gwestai arbennig diweddaraf ydy Iolo Selyf, sef canwr enigmatig y grŵp pync o Sir Benfro, FFUG.

Mae’r trac newydd yn cyfuno elfennau o gerddoriaeth pync, indie ac electronig ac yn ddathliad o’r actor Hollywood, Steven Seagal, ac ystrydebau’r 1980au.

Croeso nôl i Iolo

Ffrwydrodd grŵp ysgol Iolo Selyf i amlygrwydd gyntaf dan yr enw Y Ffug tua 2013 gyda chaneuon fel ‘Llosgwch y Tŷ i Lawr’ a ‘Cariad Dosbarth Canol Cymru’, yn dal y sylw.

Aeth y band o nerth i nerth, gan newid eu henw i FFUG cyn rhyddhau eu halbwm cyntaf yn 2016. Er hynny, digon tawel fu’r grŵp dros y dair neu bedair blynedd diwethaf.

Mae ymddangosiad Iolo ar sengl newydd Sywel Nyw yn un i’w groesawu felly.

Iolo sydd wedi ysgrifennu geiriau’r gân, ac mae’n cynnig golwg ddigrif ar natur ryfedd amser.

Mae’r geiriau ‘ti’n edrych fatha Steven Seagal, ti’n symud fatha Steven Seagal’ yn gwrthgyferbynnu’r ddelwedd gor-wrywaidd o Seagal o’i ffilmiau antur yn y 1980au, gyda’r Seagal sydd gennym nawr wedi heneiddio ac yn cael ei gyfweld o’i gadair freichiau.

Fideo hefyd

Mae fideo wedi’i gyhoeddi i gyd-fynd â’r sengl ac fe gafodd ei greu gan yr artistiaid o Lundain Wubacub a Billy Bagilhole.

Mae’r fideo yn ail-ddychmygu Seagal mewn sefyllfaoedd rhyfedd, fel mewn gêm gyfrifiadurol ac fel cymeriad cartŵn mewn ffilm western.

 

Cafodd y trac ‘Seagal’ ei gynhyrchu o adref gan Lewys Wyn, a recordiodd Iolo y llais o’i gartref yntau hefyd.

‘Seagal’ ydy degfed trac prosiect Sywel Nyw yn ei ymgais i ryddhau sengl newydd bobl mis yn ystod 2021 yn yr iaith Gymraeg.

Mae canwr a gitarydd Yr Eira yn gweithio gydag artist blaenllaw gwahanol ar bob un ac mae rhain hyd yma wedi cynnwys Mark Roberts (Catatonia / Y Cyrff), Gwenllian Anthony (o Adwaith), Casi ac Endaf Emlyn, ymysg eraill.

Ar ei drac newydd gyda Iolo, eglura Lewys ei fod yn frwdfrydig i greu “cân ymosodol, cân gyda churiad”, un sy’n cymysgu esthetig pync mwy brwnt Iolo gyda sain mwy indi-electronig a melodaidd Sywel Nyw.

Mae’r senglau i gyd yn cael eu rhyddhau’n ddigidol yn y mannau arferol ar label Lwcus T, ond mae’r label wedi datgelu y byddant yn cael eu rhyddhau ar ffurf feinyl 12” yn ystod 2022 hefyd.