Seindorf yn cyd-weithio gydag Eve Goodman

Mae dau o gerddorion sydd o Wynedd yn wreiddiol wedi cyd-weithio i greu trac newydd sy’n ran o ddathliadau Parc Cenedlaethol Eryri yn 70 oed.

‘Adleisio’ ydy enw’r trac a ryddhawyd fel sengl ddydd Gwener diwethaf, 1 Hydref, ac mae’n cyfuno doniau’r gantores ifanc o’r Felinheli, Eve Goodman, a phrosiect Seindorf gan y cerddor amryddawn Owain Gruffudd Roberts (Band Pres Llareggub).

Daeth Eve ac Owain ynghyd i ysgrifennu’r gân ar ôl dwyn ysbrydoliaeth o eiriau’r gerdd ‘Holwyddoreg Eryri’ gan Ifor Ap Glyn. Aethant ati i recordio’r llais yn Stiwdio Sain, Llandwrog cyn mynd ymlaen i recordio sawl elfen o sain natur y Parc ei hun, gan gynnwys afon Ogwen a llechi wrth lan Llyn Padarn a phlethu rhain mewn i wead sonig y darn.

Gwahoddwyd Elin Haf hefyd i recordio soddgrwth ar ben gwaith piano celfydd Owain. Cynhyrchwyd fideo i gyd-fynd â’r gân gyda Andy Pritchard yn cyfarwyddo ac yn teithio hyd a lled y parc i ddal harddwch y tirlun ar ffilm. Mae modd gweld y fideo ar sianel YouTube Parc Cenedlaethol Eryri.

Comisiynwyd ‘Adleisio’ gan Parc Cenedlaethol Eryri fel rhan o’r dathliadau y parc yn 70 oed eleni, ac fel rhan o’r dathliadau hyn, mae’r parc hefyd wedi comisiynu barddoniaeth, gweithiau dawns, celf a llawer mwy.

Seindorf ydy enw prosiect unigol Owain Gruffudd Roberts sy’n gweithio fel cyfansoddwr llawrydd ac yn byw yn Hackney, Llundain erbyn hyn. Mae ei gerddoriaeth wedi ei ddefnyddio ar BBC2, S4C a BBC Radio 4 a mae wedi trefnu cerddoriaeth i nifer o grwpiau, gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a cherddorfa’r Welsh Pops.

Yn wreiddiol o Fangor, dechreuodd ei yrfa gerddorol ym myd y bandiau pres ac mae nawr yn cynhyrchu cerddoriaeth o dan yr enw Band Pres Llareggub.

Mae Eve Goodman yn gantores-gyfansoddwraig o Ogledd Cymru, sy’n ysgrifennu’n Gymraeg a Saesneg. Mae ei cherddoriaeth yn plethu’r byd naturiol gyda’r harddwch o’i chwmpas, gan drafod y profiad o fod yn berson yn yr amseroedd cythryblus ac ysbrydoledig yma.

Yn Awst 2021, rhyddhaodd Eve ei thrydydd EP, ‘Wave Upon Wave’, sy’n archwilio themâu’r môr a’r berthynas rhwng pobl a dŵr. A hithau’n nofwraig ac yn syrffwraig drwy gydol y flwyddyn, mae’r casgliad o ganeuon yma’n deyrnged i’r moroedd.

Dyma’r fideo ar gyfer ‘Adleisio’: