Mae’r grŵp gwerin llwyddiannus o’r Gogledd Ddwyrain, The Trials of Cato, wedi cyhoeddi newidiadau i aelodaeth y grŵp wrth ryddhau eu sengl newydd ar 31 Mawrth.
Mae’r offerynnwr a chantores amryddawn, Polly Bolton, bellach wedi ymuno â’r grŵp gan gymryd lle Will Addison sydd wedi gadael. Yn berfformiwr gwych yn dechnegol ac yn garismataidd mae Bolton wedi ei disgrifio gan BBC Radio 6 Music fel ‘virtuoso exponent of mandolin, banjo and Irish bouzouki’.
Rhyddhaodd y band ar ei newydd wedd eu deunydd cyntaf, sef y sengl ‘Bedlam Boys’ ar 31 Mawrth – ‘mad song’ hiraethus a llawn dirgelwch o’r 17eg ganrif. Mae’r sengl yn flas cyntaf o’r hyn sydd i ddod ar albwm newydd y grŵp fydd allan yn fuan.
Er bod y triawd, sy’n perfformio yn y Gymraeg a Saesneg, wedi eu trwytho yng nghefndir cyfoethog cerddoriaeth draddodiadol mae ‘Bedlam Boys’ yn enghraifft berffaith o’u hymrwymiad i ysgwyd y traddodiad i’w esgyrn er mwyn creu rhywbeth mwy cyfoes a deniadol.
Mae’r albwm, ‘Gog Magog’, yn cael ei enw oddi wrth y cawr mytholegol y chwedlau Arthuraidd a hefyd copa yn Swydd Caergrawnt, lle cafodd cerddoriaeth yr albwm ei greu yn ystod y cyfnod clo.
Yn dilyn tawelwch llethol gorfodol 2020 mae The Trials of Cato yn falch o’r cyfle i gyflwyno cerddoriaeth newydd o’r diwedd – rhai darnau wedi eu creu o’r newydd ac eraill yn dychmygu’r traddodiad Prydeinig o’r newydd.
Recordiwyd Bedlam Boys gan Isaac Mcinnis, ei gymysgu gan Donald Richard, a’i fastro gan John Davis. Ffilmiwyd y fideo yn Cambridge Junction gan Matt Coles.