Sengl, ac albwm cyntaf BOI ar y ffordd

Bydd ‘siwpyr grŵp’ diweddaraf y sin Gymraeg, BOI, yn rhyddhau sengl newydd ar 30 Ebrill, a hynny fel tamaid i aros pryd nes eu halbwm cyntaf sydd ar y ffordd fis Mehefin eleni.

‘Cael Chdi Nôl’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ddiwedd mis Ebrill, a dyma fydd eu sengl gyntaf i’w rhyddhau’n swyddogol, er eu bod wedi gollwng tri thrac ar eu sianel YouTube cyn hyn – ‘Heidio Mae’r Locustiaid’, ‘Ynys Angel’ a ‘Twll Dan Staer’.

Y newyddion mawr pellach ydy bod albwm cyntaf y grŵp hefyd ar y ffordd ddiwedd mis Mehefin – da rŵan.

Mae BOI yn cyfuno doniau dau o gyn-aelodau’r grŵp poblogaidd o’r 90au a’r 00au, Beganifs / Big Leaves, gyda rhai o gerddorion mwyaf talentog y sin ar hyn o bryd.

Osian Gwynedd sydd ar yr allweddellau a Rhodri Sion ydy prif ganwr BOI, gan ddod a’r ddau yn ôl ynghyd ar ôl treulio tua 15 mlynedd gyda’i gilydd fel aelodau o Beganifs a Big Leaves rhwng 1988 a 2003.

Yr aelodau eraill ydy Heledd Mair Watkins (HMS Morris) ar y gitâr fas, Ifan Emlyn (Candelas) ar y gitâr, a Dafydd Owen (Bob, Sibrydion) ar y drymiau.

Albwm allan fis Mehefin

Mae BOI yn creu sain mawr, melodaidd, wedi’i yrru’n ddidrugaredd gan y drymiau a gitârs gyda geiriau ac alawon sy’n archwilio’ themâu mawr ei hoes a’n cyflwr dynol.

Bydd y sengl gyntaf, ‘Cael Chdi Nôl’, allan yn swyddogol ar ddydd Gwener 30 Ebrill ond mae’r grŵp eisoes wedi cyhoeddi fideo ar gyfer y trac ar-lein er mwyn rhoi blas i bawb.

Bydd yr albwm, yn cael ei ryddhau dan yr enw ‘Coron O Chwinc’ ar 25 Mehefin ar label Recordiau Crwn.

Recordiwyd 10 trac yr albwm mewn amryw o leoliadau gwahanol o amgylch Cymru, cyn cael ei gymysgu gan Daf Ieuan o’r Super Furry Animals.

Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau’n ddigidol ac ar ffurf CD.

Dyma’r fideo ar gyfer y sengl: