Mae’r grŵp o Gaerdydd, Breichiau Hir, wedi rhyddhau eu sengl newydd gan gyhoeddi hefyd ddyddiad rhyddhau ar gyfer eu halbwm llawn cyntaf.
‘Hir Oes i’r Cof’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan y chwechawd roc o’r brifddinas, ac mae’n damaid i aros pryd nes rhyddhau’r albwm ar 19 Tachwedd eleni ar label Recordiau Libertino.
“Mae’r teitl ‘Hir Oes i’r Cof’ yn seiliedig ar rywbeth nes i glywed (neu efallai ei gam-glywed) gan hen ddyn yn dweud araith am yr ardal lle fy magwyd” eglura Steffan Dafydd, prif ganwr Breichiau Hir.
“Mae’r gân yn trafod natur gaethiwus edrych yn ôl, y cysur a’r dianc sydd ynghlwm a nostalgia, wedi’i gyfuno a’r tristwch diddiwedd sy’n dod o’r ddealltwriaeth na alli di wir ail-fyw atgofion y gorffennol, ac y mwyaf ti’n ail-fyw dy atgofion, y mwyaf maent yn newid.”
Mae’r band yn ymdrin â’r thema o nostalgia melancolaidd ar ‘Hir Oes i’r Cof’ gyda geiriau ingol, hiwmor sych a drwy chwarae gyda geiriau mewn modd swreal, ac mae pob cân ar yr albwm yn cael ei berfformio’n falch drwy’r iaith Gymraeg.
“Hanner ffordd drwy ysgrifennu’r albwm, sylwais fod y geiriau i gyd yn dilyn naratif a themâu sydd yn ymdrin â nostalgia” meddai Steffan am y record.
“Mae’n daith sydd yn dilyn yr adroddwr yn ymdrochi yn y teimlad ac yn colli ei synnwyr o realiti. Mae’r thema o afon fel trosiad am amser yn rhedeg drwy gydol yr albwm”
Mae’r band yn cyfuno arddwysedd angerddol, haenau trwm o gitars ac enydau bregus o dristwch. Mae’r chwechawd, sy’n gorlifo gydag alawon, breuder ac angerdd, yn neidio o egni ffyrnig i gyfnodau ysgafn i donnau cryf o sain.
Ar ôl rhyddhau eu EP cyntaf ‘Mae’r Angerdd Yma yn Troi yn Gas’ yn 2015, mae’r band wedi rhyddhau cyfres o senglau unigol yn cynnwys ‘Mewn Darnau/Halen’ (2018), ‘Portread O Ddyn Yn Bwyta Ei Hun’ (2018), ‘Penblwydd Hapus Iawn’ (2019), ‘Yn Dawel Bach / Saethu Tri’ (2019), ‘Preseb o Ias’ (2020) ac yn fwyaf diweddar eu fersiwn o’r clasur gan Bryn Fôn ‘Y Bardd o Montreal’ (2020).
Bydd y cyfle nesaf i weld Breichiau Hir yn perfformio’n fyw ar 9 Hydref yng ngŵyl FOCUS Wales, Wrecsam.
Mae’r grŵp hefyd wedi cyhoeddi fideo i gyd-fynd â’r sengl newydd: