Sengl Adwaith yn nodi partneriaeth newydd

Bydd sengl ddiweddaraf y grŵp o Gaerfyrddin, Adwaith, yn eu gweld yn cyd-weithio  gyda cherddor o’r Eidal, Massimo Silverio.

‘Yn y Sŵn (Nijo)’ ydy enw’r sengl sydd allan yn swyddogol ar ddydd Gwener 26 Chwefror.

Datgelwyd y trac wythnos diwethaf, ac mae’n nodi lansiad partneriaeth newydd rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl SUNS Europe – Gŵyl Ewropeaidd y Celfyddydau Perfformio mewn Ieithoedd Lleiafrifol.

Mae’r bartneriaeth yn ddathliad o gerddoriaeth sy’n chwalu ffiniau ieithyddol, ac mae’r prosiect cyntaf yn cyfuno’r Gymraeg gyda’r iaith Friulian, sef iaith gynhenid Fruli yng ngogledd Yr Eidal.

Cyrraedd ‘nijo’

Mae peth hanes rhwng Adwaith a Gŵyl SUNS – fe deithiodd y grŵp i ogledd Yr Eidal i berfformio yn yr ŵyl ym mis Tachwedd 2017.

Roedd Gruff Rhys yn perfformio yno yn yr un flwyddyn, ac mae Gwenno wedi gwneud yn y gorffennol. Teithiodd y grŵp ifanc o Gaerdydd, SYBS i’r ŵyl i berfformio yn 2019 hefyd.

Mae dwy fersiwn o’r gân wedi’i recordio, sef y fersiwn Gymraeg, a’r un ddwyieithog yn y Gymraeg a’r iaith Friulian dan yr enw ‘Nijo’.

Mae ‘Nijo’ yn air hynafol yn yr iaith honno sy’n golygu ‘unman’ neu ‘unlle’. Mae hynny’n cyd-fynd â thema’r gân sy’n trafod teimladau, geiriau ac ieithoedd sy’n cyrraedd ‘nijo’ yn y pendraw.

Cafodd y trac newydd ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Radio Cymru Huw Stephens wythnos diwethaf, ac mae fideo gan y gwneuthurwr ffilm, Jonny Reed, i’w ryddhau ar 25 Chwefror.

Rhywbeth hudolus

“Mae’r bartneriaeth yma rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a gŵyl SUNS Europe yn dangos sut mae modd cydweithio’n llwyddiannus gyda gwledydd a diwylliannau eraill ar draws y byd” meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses.

“Rwy’n ffyddiog bod y ffaith ein bod ni’n ddwy ŵyl sy’n dathlu ieithoedd lleiafrifol yn ein clymu ynghyd a gobeithio bod hyn yn sail cadarn i ni ddatblygu prosiectau eraill yn y dyfodol.

“Ry’n ni wedi llwyddo i greu rhywbeth hudolus gyda’r cywaith cyntaf, ac rwy’n sicr y bydd pawb yn cytuno bod y gân – boed hynny’n fersiwn Gymraeg neu ddwyieithog – yn arbennig iawn.”

Yn ôl Recordiau Libertino, roedden nhw fel label, ac Adwaith fel grŵp, yn awyddus iawn i fod yn rhan o’r prosiect.

“Chwarae yn SUNS Europe yn Udine, Fruli yn 2017 oedd cychwyn cysylltiad dwfn Adwaith gyda’r ŵyl ysbrydoledig yma, ei chymuned artistig a’r ethos sy’n rhan greiddiol o SUNS” meddai Gruff Owen, rheolwr Libertino.

“Pan awgrymodd yr Eisteddfod a SUNS bod cyfle i’r band gydweithio ar gân gyda Massimo Silverio, artist sy’n cyfansoddi a chanu yn Frulian, roedden nhw’n awyddus iawn i dderbyn y cynnig.

“Mae ‘Yn y Sŵn (Nijo)’ yn gân hyfryd o dywyll ac emosiynol gyffrous. Gan adeiladu ar gordiau dyrus Massimo, ‘cello meloncolaidd a barddoniaeth hyfryd, mae Adwaith yn plethu rhythmau a synau sy’n wahanol i’r hyn maen nhw wedi’i greu o’r blaen.”

Bydd y sengl allan yn swyddogol ddydd Gwener yma, 26 Chwefror.