Mae’r grŵp Lastigband wedi bod yn weddol weithgar yn ystod 2021, ac mae bach mwy o sŵn low-fi o Ddyffryn Conwy ar y ffordd yn fuan ar ffurf sengl newydd o’r enw ‘Galaxy’.
Mae Lastigband yn un o’r grwpiau sydd wedi tyfu o lwch y grŵp chwedlonol o Ddyffryn Conwy, Sen Segur – dyma brosiect y drymiwr, Gethin Davies.
Roedd Lastigband yn fand am gyfnod, ond bellach mae fwy o brosiect unigol gan Gethin, ac mae wedi symud i gyfeiriad mwy electronig yn ddiweddar, rhywbeth sy’n amlwg ar ei sengl ddiweddaraf.
‘Galaxy’ ydy sengl nesaf y prosiect – trac offerynnol fydd allan ar label Recordiau Cae Gwyn ar 3 Rhagfyr.
Mae’r ‘Galaxy’ yn arwyddocaol am reswm arall, sef am y ffaith mai’r sengl ydy’r hanner canfed cynnyrch cerddorol i’w ryddhau ar label Recordiau Cae Gwyn.