Mae Geth Tomos wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 15 Hydref.
‘Haws Deud Na Gwneud’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y cerddor profiadol sydd wedi dod yn ôl i amlygrwydd gyda chyfres o senglau dros y misoedd diwethaf.
Mae Geth yn gerddor amryddawn ond mae’n siŵr ei fod yn fwyaf adnabyddus i ffans cerddoriaeth Gymraeg fel aelod o’r band roc Gwacamoli oedd yn amlwg iawn ar droad y mileniwm.
Mae cyfnod y pandemig wedi arwain at comeback o fath i’r cerddor. Cafodd ei ysbrydoli i droi nôl at y gitâr a chyfansoddi caneuon o’r newydd yn ystod y cyfnod clo, a chanlyniad hynny oedd rhyddhau’r traciau ‘Achub y Byd (efo roc a rôl)’ a ‘Byw mewn Harmoni’ ychydig fisoedd yn ôl.
Yn ddiweddarach mae hefyd wedi rhyddhau’r trac ‘Darn Ohonaf i’ gyda’r cerddor Neil Williams o’r grŵp Maffia Mr Huws, ynghyd â’r sengl ‘Hedfan i Ffwrdd’ gyda’r gantores o Waun-Cae Gurwen, Lisa Pedrick.
Cyntaf mewn cyfres o senglau
Wrth iddo ryddhau ‘Haws Deud Na Gwneud’, does dim arwydd ei fod yn bwriadu arafu, fel yr eglura Geth.
“Mae hon yn gyfres o senglau dwi’n rhyddhau efo’r bwriad o ryddhau un y mis am flwyddyn” meddai’r cerddor.
“Mae hi’n gân am sut da ni’n byw mewn byd llawn addewidion gwag a sut, fel mae’r gân yn dwued, haws dweud na gneud…”
“O ran steil y miwsig, mae hi’n full on rock ‘n roll fest, sydd yn brin dwi’n meddwl yng Nghymru.”
Mae’r trac wedi’i recordio yn stiwdio Geth ei hun, sef Stiwdio Shabby Road, gan ddefnyddio offer hollol sylfaenol “mwya primitive” i ddefnyddio geiriau Geth.
Y newyddion cyffrous pellach ydy fod y cerddor wedi adeiladu band o’i gwmpas, gan awgrymu y gallwn edrych ymlaen i’w weld yn perfformio ar lwyfan yn fuan. Mae’r band yn cynnwys Robin Jones (o’r band Dan Lloyd a Mr Pinc) ar y bas, Rhys Edwards o Fleur de Lys ar y gitâr a Dei Elfryn ar y drymiau.