Mae’r cerddor amgen sy’n dod yn wreiddiol o Sir Gâr, Jaffro, wedi rhyddhau ei sengl ddwbl newydd ers dydd Gwener 30 Ebrill.
‘Cold White Room’ a ‘Go To The Water’ ydy enw’r ddau drac sydd wedi’u rhyddhau, ac mae fideo i gyd-fynd â ‘White Room’ sydd wedi’i greu gan Chloe Tennant. Mae modd cael gafael arnyn nhw ar Bandcamp Jaffro.
Mae’r sengl ddwbl newydd yn ddilyniant i’r albwm ‘Ffrog Las’ a ryddhawyd gan Jaffro fis Ionawr.
Dyma’r fideo: