Mae Breichiau Hir wedi rhyddhau sengl ddwbl newydd heddiw ar label Recordiau Libertino.
‘Mwynhau’ ac ‘Ofni Braidd’ ydy’r ddau drac newydd gan y grŵp roc ‘ôl-hardcore’ o Gaerdydd ac mae’n damaid arall i aros pryd nes rhyddhau albwm y grŵp fis Tachwedd.
Mae’r grŵp hefyd yn cyhoeddi fideo ar gyfer y trac ‘Mwynhau’ i gyd-fynd â’r sengl ddwbl. Yn ôl Libertino, mae’r fideo’n ddathliad o’r traddodiad gwych o chwarae’r air guitar, a’r llawenydd mae rhywun yn teimlo wrth brofi profiadau newydd.
Chwilio am hwyl
Grŵp 6 aelod o Gaerdydd ydy Breichiau Hir, sy’n cael eu harwain gan y canwr ac enigma, Steffan Dafydd.
“Dyma gân sy’n trafod chwilio am hwyl, a phrofi amser da – mae’r ffordd yr wyt ti a dy ffrindiau yn mwynhau wedi newid” meddai Steffan am y trac ‘Mwynhau’.
“Dim ond pan ma’ profiadau yn newydd, ma’ nhw’n teimlo’n gyffrous. Pan maen nhw’n cael eu hail-adrodd, mae’r cyffro yn diflannu. Mae’r gân yma am ymgais enbyd i deimlo’r wefr yma eto, ar ôl blynyddoedd o ail-adrodd yr un profiadau”
Albwm cyntaf ar y ffordd
Cyhoeddodd y grŵp yn ddiweddar bod eu halbwm cyntaf,Hir Oes I’r Cof, yn cael ei ryddhau ar 19 Tachwedd drwy Recordiau Libertino.
Mae’r grŵp wedi cyhoeddi eu bod wedi gorfod tynnu allan o gig yn FOCUS Wales penwythnos yma, ond bydd cyfle i’w gweld yn perfformio’n fyw mewn gig lansio swyddogol ar gyfer yr albwm yn cael ei gynnal yn Clwb Ifor Bach ar 20 Tachwedd, gyda chefnogaeth gan False Hope For The Savage.
Mae Breichiau Hir wedi bod yn perfformio ar lwyfannau Cymru ers sawl blwyddyn bellach, ac er rhyddhau tipyn o gynnyrch, Hir Oes I’r Cof fydd eu halbwm llawn cyntaf.
Ar ôl rhyddhau eu EP gyntaf ‘Mae’r Angerdd Yma Yn Troi Yn Gas’ yn 2015, mae’r band wedi rhyddhau sawl sengl yn cynnwys ‘Mewn / Halen’ (2018), ‘Portread o Ddyn yn Bwyta Ei Hun’ (2018), ‘Penblwydd Hapus Iawn’ (2019), ‘Yn Dawel Bach / Saethu Tri’ (2019), ‘Preseb o Ias’ (2020) ac yn ddiweddar eu cover o’r gân eiconig gan Bryn Fôn ‘Y Bardd O Montreal’ (2020).
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Mwynhau’: