Mae dau o grwpiau mwyaf diddorol label Recordiau Libertino wedi dod ynghyd i gyd-weithio ar ddwy gân sydd wedi cael eu rhyddhau fel sengl ddwbl ers dydd Iau diwethaf, 25 Tachwedd.
‘O Fy Nghof’ ac ‘A Oes Heddwch’ ydy enw’r ddau drac newydd sy’n cyfuno doniau’r ddeuawd o Gaerfyrddin, Tacsidermi, a’r grŵp Cymraeg o Sheffield, Sister Wives.
Tacsidermi ydy prosiect pop newydd Gwenllian Anthony o’r grŵp Adwaith, a’r cerddor Matthew Kilgariff. Rhyddhawyd eu sengl gyntaf, ‘Gwir’ ym mis Rhagfyr llynedd, gydag ail sengl ‘Ble Pierre’ yn dilyn ym mis Awst eleni.
Grŵp ôl-bync benywaidd unigryw o Sheffield ydy Sister Wives a ddaeth i amlygrwydd ar ddechrau 2021 wrth iddynt ryddhau mics newydd o’r trac ‘Wandering Along / Rwy’n Crwydro’ gyda label Recordiau Libertino. Daeth cadarnhad yn hwyrach yn y flwyddyn eu bod yn ymuno’n llawn â’r label o Gaerfyrddin.
Prosiect cydweithredol
Ysgrifennodd y ddau fand sgerbwd cân yn annibynnol a’u hanfon i’w gilydd, ac yna ychwanegodd Tacsidermi a Sister Wives eiriau ac alawon i gyfansoddiadau’r caneuon, mewn prosiect cwbl gydweithredol.
Mae ‘O Fy Nghof’ a ‘A Oes Heddwch’ yn adlewyrchu pynciau tywyll megis iselder a chwilio am heddwch wrth i fywyd ddirywio.
“Mae’r gân hon am wynebu diwedd y byd a’r panig o beidio gwybod beth i’w wneud gyda’ch oriau olaf” eglura Tacsidermi am ‘A Oes Heddwch’.
“Does dim pwynt cuddio o hynny sy’n anochel. Does dim pwynt ceisio dod o hyd i heddwch. Mae’n rhaid dygymod gyda chanlyniadau eich gweithredoedd”
Bydd y sengl ddwbl yn cael ei rhyddhau’n ddigidol, ond hefyd bydd fersiwn feinyl ‘lathe-cut’ nifer cyfyngedig ar gael ar 17 Rhagfyr hefyd.