Sengl Ewro 2020 Candelas

Candelas ydy’r grŵp diweddaraf i ymuno â’r ‘parti Ewro 2020’, gan ryddhau cân newydd i gefnogi ymgyrch tîm pêl-droed Cymru yn y bencampwriaeth.

Mae gan y grŵp o Lanuwchllyn brofiad o ryddhau anthemau pêl-droed wrth gwrs – nhw oedd yn gyfrifol am atgyfodi’r hen glasur gan Yr Anhrefn, ‘Rhedeg i Paris’ a’i throi’n drac sain i’r holl wlad wrth gefnogi ymgyrch Cymru yn Ewro 2016.

Mae’r grŵp yn gobeithio bydd eu sengl newydd ‘Mae’n Amser // We Think it’s Time’ yn cael yr un fath o ymateb ac yn anthem newydd sbon ar gyfer ymgyrch y tîm dros yr wythnosau nesaf.

Cymeradwyaeth Coleman

O grafiad cyntaf ar y gitâr, mae egni cyfarwydd Candelas yn gorlifo o’r gân a’r riffs tew yn waldio’r geiriau gobeithiol i ganol eich wyneb.

A does neb llai na chyn-reolwr y tîm cenedlaethol, Chris Coleman wedi gwirioni ar y gân, ag yntau wedi ymweld â Candelas yn y stiwdio’n ddiweddar ar gyfer ‘Cariad at Iaith’, S4C.

I recently enjoyed a little jamming session with Osian Candelas and absolutely loved it”, meddai Coleman, a arweiniodd y tîm cenedlaethol i lwyddiant ysgubol yn Ewro 2016.

Since then I’ve enjoyed listening to some of their brilliant music and they’ve only gone and done it again with this new release.

“I’m sure The Red Wall will love singing this tune to celebrate some amazing Wales wins in The Euros”.

Cefnogi Cymru, a Yes Cymru

Yn ôl Osian Huw Williams, ffryntman enegmatig y band, roedd yr amser yn iawn i Candelas ryddhau cerddoriaeth newydd ar ôl cyfnod cymharol hir ers gwneud hynny.

“Mae hi wedi bod yn sbel ers i ni ryddhau cynnyrch newydd” meddai Osian.

“Mae’r gân yma wedi bod yn byw yn fy mhen i ers dros flwyddyn, yn enwedig y llinell ‘We think it’s time’. Oni isho cwmpasu holl egni ymgyrch diweddar Yes Cymru, yr hyder ‘de ni wedi ei weld yn ein tîm pêl-droed cenedlaethol a’r teimlad y gallwn ni greu Cymru well.”

Mae ‘na bêl-droedwyr rhyngwladol hefyd yn ffans mawr o’r gân, gan gynnwys cyn-chwarawr canol cae Abertawe a Chymry, Owain Tudur Jones.

“Am gân! Dwi’n edrych ymlaen gymaint i wylio Cymru yn cael llwyddiant yn yr Ewros, wedyn dathlu hefo peint o gwrw yn fy llaw a ‘Mae’n Amser // We Think it’s Time’ yn bloeddio yn y cefndir” meddai Owain.

Ffan arall o’r trac ydy cyn-chwaraewraig tîm pêl-droed merched Cymru, Gwennan Harries.

“Fi’n rili hoffi’r gân” meddai Gwennan, sydd bellach yn un o brif sylwebwyr pêl-droed S4C.

“Mae’n catchy a bendant yn un i floeddio’r geiriau allan iddi! Geiriau yn berthnasol iawn ‘fyd. Edrych ymlaen at glywed e mwy cyn y gemau rhyngwladol”.

Cafodd ‘Mae’n Amser // We Think it’s Time’ ei rhyddhau ar 4 Mehefin ar label Recordiau I KA CHING. Recordiwyd y sengl yn Stiwdio Sain gydag Aled Huws yn peiriannu ac fe’i cynhyrchwyd gan Candelas. Crëwyd clawr y sengl gan Rhys Grail.

Mae fideo wedi’i greu i gyd-fynd â’r sengl – Rhys Edwards sy’n gyfrifol am hwn a gallwch ei wylio isod!