Sengl Ewro’s Geraint Løvgreen ar y ffordd

Oes, mae llu o ganeuon Ewro 2020 (…ond yn 2021) fel petaen nhw wedi ymddangos dros nos, ac mae Geraint Løvgreen ymysg yr artistiaid sy’n rhyddhau un.

Er tegwch, mae Geraint yn gefnogwr pybyr o’r tîm cenedlaethol, ac os oes un boi sy’n gallu codi calonnau’r holl gefnogwyr sy’n methu dilyn anturiaethau tîm Cymru yn y cnawd gyda’i gerddoriaeth, wel Løvgreen ydy hwnnw.

Wyddoch chi mai Geraint oedd yn gyfrifol am godi canu ar gyfer ‘Calon Lân’ wrth i Gymru herio Slofacia yn Bordeaux yn 2016? Gwir pob gair.

Enw’r trac ydy ‘Diolch byth am y tîm pêl-droed’, a bydd yn cael ei rhyddhau gan label Recordiau Sain  ar 24 Mai.