Sengl Ffrancon cyn rhyddhau albwm

Mae’r ail sengl o albwm newydd yr artist Ffrancon wedi’i ryddhau ar label Ankstmusik ar ers dydd Gwener diwethaf, 25 Mehefin.

Enw’r sengl newydd ydy ‘MACHYNLLETH NEW YORK CHICAGO DETROIT’  ac mae’n dilyn y sengl flaenorol  sef ‘DETROIT CHICAGO NEW YORK MACHYNLLETH’ a ryddhawyd ddechrau mis Mehefin.

Ydyn, mae enwa’r ddau drac yn debyg, ond bydd y rhai craff yn eich mysg yn nodi eu bod nhw go chwith i’w gilydd! Dyma’r ddau drac sy’n agor a chloi’r albwm hefyd.

Enw’r albwm ydy ‘GWALAXIA: BELLEVILLE 1315 / MACHYNLLETH 1404’ a bydd yn cael ei ryddhau ar CD ac yn ddigidol fory, 1 Gorffennaf.

Bydd fersiwn feinyl o’r record hir yn dilyn ac ar gael drwy siopau recordiau’r DU fel rhan o ddathliadau Record Store Day ar Gorffennaf 17. 

Taith i gyfeiriad gwahanol

Mae enwau’r ddwy sengl gyntaf yn debyg gan eu bod yn perthyn yn agos. Er hynny, nid yw ‘Machynlleth New York Chicago Detroit’ yn ailgymysgiad arferol o’r sengl gyntaf yn ôl Ffrancon, ond yn hytrach mae hi’n fwy o daith i gyfeiriad gwahanol.

 

Fel gyda’r sengl gyntaf, mae fideo i gyd-fynd â’r sengl newydd lle mae’r artist Simon Proffitt wedi creu Machynlleth yn llawn coed palmwydd, ac yn cynnig mwy o naws glan y môr Miami na phrysurdeb ganol dinas Metropolitan.

Mae Gwalaxia fel prosiect a chysyniad positif yn mynnu ein bod ni’n teithio ar draws ffiniau, diwylliannau ac amser ac mae’r sengl chwareus newydd yn dyst i’r awydd elfennol yna.

Ffrancon ydy’r cerddor amgen Geraint Ffrancon, sydd wedi bod yn cynhyrchu cerddoriaeth electroneg mewn amryw ffyrdd ers sawl blwyddyn gyda phrosiectau amrywiol.

Ymddangosodd traciau’r albwm hyn ar-lein yn wreiddiol gan Ffrancon nôl yn 2020 fel rhan o brosiect ‘Machynlleth Sound Machine’.

Darganfyddiad ar hap fod Belleville, man geni tecno Detroit, yn efeilldref â Machynlleth, safle Senedd Owain Glyndwr a arweiniodd yn wreiddiol at benderfyniad Geraint i greu GWALAXIA.  Gwaith sydd yn sianelu ysbryd gwrthryfelgar y ddau fan tra gwahanol yma trwy gyfrwng cerddoriaeth electroneg.

Dyma’r sengl: