Sengl gyntaf skylrk. ar y ffordd

Bydd y cerddor a rapiwr ifanc o Ddyffryn Nantlle, skylrk. yn rhyddhau ei sengl gyntaf ddydd Gwener yma, 6 Awst.

Prosiect cerddorol Hedydd Ioan, sydd hefyd yn wneuthurwr ffilm addawol dros ben, ydy skylark, ac enw’r trac newydd ganddo ydy ‘dall.’.

Yn ôl Hedydd, mae’r trac cyntaf yma’n cyflwyno cymeriad skylrk. i ni.

“Mae’r trac yn cwestiynu dyheadau hedonistic a byrbwyll skylrk. wrth i ni ei weld o’n gweiddi a sgrechian ac yn ceisio cuddio ei ansicrwydd” eglura Hedydd.

“Mae’r gân yn gofyn be yda’ ni’n fodlon anwybyddu am ein hunain er mwyn ceisio cael rhyw fath o hapusrwydd byr a fleeting, dyma pam dwi di ei alw yn ’dall.’.

Roedd cyfle i glywed y trac cyn y dyddiad rhyddhau wrth i skylrk.  berfformio ar noson gyntaf Maes B fel rhan o gystadleuaeth Brwydr y Bandiau neithiwr, nos Lun 2 Awst. Mae’r trac eisoes wedi cael ei chwarae gan Lisa Gwilym ar ei rhaglen BBC Radio Cymru wythnos diwethaf.

Ar gyfer Brwydr y Bandiau, roedd skylrk. yn perfformio fersiwn wahanol o’r gân yn ôl y cerddor, a bydd fideo ar gyfer y sengl yn ymddangos ar y dyddiad rhyddhau hefyd.

“Fe fydda i’n perfformio fersiwn arbennig o’r gân yn fyw gyda diweddglo hollol newydd i’r un fydd yn cael ei ryddhau” meddai Hedydd.

“Yn ogystal â’r perfformiad byw fyddwn i’n rhyddhau music video i gyd-fynd a’r gân ar yr un diwrnod wedi ei greu gan fy nghwmni cynhyrychu Trac 42 sydd wedi creu fideos ar gyfer bandiau eraill o fewn y sîn yng Nghymru.”

Gallwn edrych ymlaen at glywed mwy o gerddoriaeth gan skylrk. yn y dyfodol, ac yn y dyfodol agos iawn mae wedi cydweithio ar drac gydag Endaf & Fairhurst fydd yn cael ei ryddhau’r wythnos ganlynol.

Dywed y cerddor ei fod eisoes wedi dechrau gweithio ar ei drac nesaf a’i fod  yn edrych ymlaen at ddangos mwy o’i waith.

Mae’r gwaith celf sy’n cyd-fynd â’r sengl gyntaf yn drawiadol, ac mae stori ddifyr am hyn yn ôl y cerddor.

“Ar y diwrnod ges i’r trac yn ôl wedi cael ei fastro o ni’n gorfod mynd i’r opticians, ac yna nathon nhw gymryd sgan o tu ôl i fy llygaid, wrth iddyn nhw ddangos rhein i fi nes i sylwi fysa nhw’n gneud clawr perffaith ar gyfar fy sengl gynta’.”

Bydd ‘dall.’ gan skylrk. allan yn swyddogol ar ddydd Gwener 6 Awst, ynghyd â fideo i gyd-fynd â’r sengl.

Dyma’r perfformiad ar gyfer Brwydr y Bandiau:

  • Anwybyddu
  • Dysgu
  • Nôl
  • Nesaf