Bydd y grŵp Dubstep / pop o’r Cymoedd, Indie Arcade yn rhyddhau sengl newydd ar 5 Chwefror, sef Dydd Miwsig Cymru eleni.
‘Rhy hwyr i Droi Nôl’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y prosiect newydd ac mae’n cynnwys MrPhormula fel gwestai arbennig.
Daeth y prosiect newydd dirgel i’r amlwg gyntaf ym mis Awst llynedd wrth ryddhau’r sengl ‘Lost/Ar Goll’.
Yn ôl Mr Phormula (aka Ed Holden) mae wedi mwynhau gweithio gydag Indie Arcade ar y trac – “Ma gweithio efo Indie Arcade di bod yn bleser, artist unigryw, fresh fydd bendant efo dyfodol diddorol yn y diwydiant!”