Mae’r gantores ifanc Mali Hâf wedi rhyddhau ei sengl newydd ‘Refreshing/Ffreshni’ ddydd Gwener diwethaf.
Mae’r trac yn ddilyniant i’r gân ‘Aros Funud’ a gyfansoddodd ar gyfer cystadleuaeth Cân i Gymru 2019.
Merch o Gaerdydd ydy Mali ac mae wedi bod yn astudio yng Ngholeg Cerdd Leeds.
Er hynny, galwodd hiraeth hi’n ôl i Gaerdydd i geisio datblygu ei gyrfa gerddorol. Daeth y symudiad ychydig yn gynharach na’r bwriad oherwydd Covid a’r clo mawr, a gyda hynny penderfynodd newid ei henw llwyfan hefyd o Mali Melyn i’w henw gwreiddiol, Mali Hâf.
Perthynas
Mae ‘Refreshing / Ffreshni’ yn gân am berthynas iach, boed gyda pherson arall neu gyda natur. Dyma berthynas lle mae yna ymddiried a pharch a siawns o fod yn unigolyn creadigol heb ragfarn.
Mae’r sengl hefyd yn ddechrau ar gydweithrediad newydd gyda’r cynhyrchydd, DJ a cherddor Shamoniks, neu Sam Humphreys, sy’n gyfarwydd fel aelod o Calan ac am ei waith diweddar gydag Eädyth.
Mae’r ddau yn rhannu brwdfrydedd am wahanol fathau o gerddoriaeth electronig a’r sin gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg. Maent eisoes wedi gweithio ar nifer o gyfansoddiadau newydd.