Yr artist o Gaerdydd, Catrin Herbert, ydy’r diweddaraf i roi tro ar ryddhau sengl Nadolig newydd eleni.
‘Nadolig ‘Da Fi’ ydy enw’r trac newydd gan Catrin sy’n fwyaf cyfarwydd am ei chaneuon bachog ‘Disgyn Amdana Ti’, ‘Dere Fan Hyn’ ac ‘Ar Goll yng Nghaerdyd’d.
O ystyried poblogrwydd ei chaneuon blaenorol, nid yw’n syndod gweld Catrin yn rhoi tro ar drac Nadoligaidd, ac mae’n gwneud hynny gyda chymorth label Recordiau JigCal a’r cynhyrchydd Mei Gwynedd.
Yn briodol iawn, dechreuodd Catrin gyfansoddi ‘Nadolig ‘Da Fi’ ar ddiwrnod crasboeth o fis Gorffennaf gwpl o flynyddoedd yn ôl. A gyda bach o hyd a lledrith y Nadolig, ychydig o glychau Siôn Corn a help llaw y ‘corrach bach’…neu’r cynhyrchydd Mei Gwynedd…yn stiwdio JigCal, dyma greu cân Nadolig i godi calon a chodi gwên.
Yn ôl y label, mae hon yn gân am adael i chi’ch hunain obeithio am Nadolig arbennig a hudolus, ta waeth pa fath o flwyddyn rydych chi wedi’i chael, achos rydyn ni i gyd yn haeddu Nadolig Llawen eleni! Ac wrth gwrs, bydde bach o gwmni dan yr uchelwydd yn eitha’ hyfryd hefyd…