Sengl Nadolig Tad a Merch

Mae Delwyn Sion yn gerddor sy’n cael ei gysylltu’n agos â’r Nadolig yma yng Nghymru, ac eleni mae wedi rhyddhau sengl ddwbl newydd gyda’i ferch, Marged, i groesawu’r ŵyl. 

‘A Welaist ti’r Ddau’ a ‘Canol Gaeaf Noethlwm’ ydy’r ddau drac newydd sydd allan gan Delwyn Sion a Marged Sion ers dydd Gwener 10 Rhagfyr. 

Mae’r sengl ddwbl allan ar label Recordiau Fflach, ac mae hynny’n arwyddocaol gan fod Delwyn yn awyddus i’r caneuon fod yn deyrnged i sylfaenwyr y label, Wyn a Richard Jones, a fu farw’n gynharach yn y flwyddyn. 

“Ro’wn i fel sawl cerddor yn ddyledus i Wyn a Richard (Ail Symudiad/Fflach) am eu cefnogaeth a’u cyfeillgarwch, felly mi benderfynes i recordio dwy gân ar gyfer y Nadolig hwn, a hynny er cof amdanyn’ nhw” meddai Delwyn Sion.

Bu farw Wyn Jones o’r grŵp Ail Symudiad, ac o label Recordiau Fflach ym mis Mehefin 2021 a cwta fis oedd nes i’w frawd, Richard ein gadael hefyd  

“Ro’dd y ddau yn hoff o’r hen a’r newydd” ychwanegodd Delwyn Sion am y brodyr. 

“Dyna sydd ar y sengl ddwbwl, fersiwn newydd o fy hoff garol i “Ganol Gaeaf Noethlwm” a chân newydd wedi seilio ar linell cynta’ hen garol W Rhys Nicholas “A welaist ti’r ddau a ddaeth gyda’r hwyr?

“Ond yn lle hanes Mair a Joseff; ffoaduriaid oes Herod, yr hyn sydd yn y gân yw hanes teulu o ffoaduriaid ein hoes ni sy’n dod o hyd i loches mewn hen gapel o’r enw Bethlehem.” 

Mae Delwyn Sion yn gyfrifol am un o’r caneuon Nadolig Cymraeg enwocaf sef ‘Un Seren’ – heb os, un o’r traciau Cymraeg sy’n cael ei chlywed amlaf tua’r adeg yma o’r flwyddyn. 

Mae Marged, merch Delwyn, wedi canu gyda’i thad ar lwyfan ac ar record yn y gorffennol gan gynnwys ar albwm diwethaf y cerddor ‘Chwilio am America’ a ryddhawyd yn 2015.