Mae Alys Williams wedi rhyddhau sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 19 Mawrth.
‘You’ ydy enw’r trac Saesneg sy’n cael ei ryddhau ar label The Playbook.
Er ei bod wedi rhyddhau cynnyrch gyda’r band Blodau Papur ers hynny, dyma gynnyrch unigol cyntaf Alys ers diwedd 2018.
Yn ôl Alys mae’r trac wedi’i recordio ers dros flwyddyn ac fe’i cwblhawyd jyst cyn y cyfnod clo cyntaf.