Sengl newydd ar y ffordd gan Glain Rhys

Bydd Glain Rhys yn rhyddhau ei sengl newydd ar ddydd Gwener 5 Chwefror, a bydd cyfle cyntaf i weld y fideo ar wefan Y Selar y bore hwnnw.

‘Plu’r Gweunydd’ ydy enw’r trac newydd gan y gantores dalentog o ardal y Bala.

Mae’r sengl yn ei gweld yn symud at label Recordiau I KA CHING ar ôl rhyddhau ei halbwm, ‘Atgof Prin’, gyda label Rasal yn 2018.

Wedi dwy flynedd o fethu’n lân ac ysgrifennu ar ôl rhyddhau ei halbwm, mae Glain yn ei hôl gyda chaneuon a sŵn newydd ynghyd â’r addewid o albwm arall erbyn yr haf.

Mae Glain hefyd yn adnabyddus ar lwyfannau sioeau cerdd, ac roedd yng nghanol rhediad o’r sioe ‘Phantom of the Opera’ yng Ngroeg gyda chast o’r West End pan alwyd y Cyfnod Clô cyntaf yng ngwanwyn 2020.

Er gwaetha’r siom o derfynu’r sioe yn fuan, cynigodd hyn gyfnod heb bwysau i Glain fynd ati i greu o’r newydd.

Cysur dod adre

Mae ‘Plu’r Gweunydd’ wedi ei hysbrydoli gan yr ardal o gwmpas magwrfa Glain ym Mhenllyn. Blodyn ydi plu’r gweunydd sydd ond yn tyfu mewn mannau garw, ond mae’n flodyn hardd er gwaethaf yr amgylchiadau.

Mae’r gân yn trafod y cysur o ddod adre a gweld fod pethau yn dal i fod yr un fath, ac yr un mor wydn yn y bôn â’r blodyn bach gwyn.

Mae dylanwadu newydd Glain yn cynnwys Billie Eillish, Greta Isaac, Orla Gartland a Phoebe Bridgers.

Bydd fideo cerddoriaeth yn cael wedi’i greu gan gwmnu Amcan i gyd-fynd â’r sengl, a bydd cyfle cyntaf i weld hwn ar wefan Y Selar ychydig ddyddiau cyn y dyddiad rhyddhau.

Llun: Kristina Banholzer