Sengl newydd Awst allan yn fuan

Bydd prosiect newydd y cerddor profiadol, Cynyr Hamer, yn rhyddhau ei sengl newydd ar 25 Tachwedd.

‘Haul Olaf’ ydy enw’r trac newydd gan Awst, sef y prosiect unigol a ddechreuwyd yn ddiweddar gan Cynyr Hamer.

Mae Cynyr yn gerddor adnabyddus, yn bennaf diolch i’w waith fel aelod o’r bandiau Worldcub (CaStLeS gynt), Hippies vs Ghosts ac We Are Animal.

Mae Cynyr wedi bod yn brysur yn ysgrifennu ac yn recordio caneuon newydd ers haf 2020, ac yn ôl y cerddor cynhyrchiol gallwn ddisgwyl tipyn o gynnyrch ganddo dan yr enw.,

Rhyddhawyd ei gynnyrch cyntaf ym mis Ebrill eleni sef y sengl ddwbl ‘Lloeren’ a ‘Send a Sign to the Satellite’.

Nawr mae’n paratoi i ryddhau rhywbeth ychydig mwy swmpus, gyda’r sengl ‘Haul Olaf’  yn cynnig blas o EP fydd allan yn y flwyddyn newydd.

‘Haul/Lloer’ ydy enw’r EP a fydd yn cael ei ryddhau ym mis Chwefror, ac yn ôl Cynyr bydd ar gael i’w brynu’n ddigidol ac ar ffurf casét bryd hynny.

Yn ôl cerddor, gallwn ddisgwyl gweld ail sengl o’r EP yn ymddangos ym mis Ionawr hefyd.

Bydd y sengl newydd, ‘Haul Olaf’, yn gyfarwydd i rai gan i Awst berfformi’r gân ar bier Llandudno fel rhan o daith haf Gorwelion eleni.