Sengl newydd Awst ar y ffordd

Bydd cerddor profiadol ac adnabyddus i unrhyw un sydd wedi bod yn dilyn y sin gerddoriaeth Gymraeg, yn rhyddhau sengl gyntaf ei brosiect newydd ddiwedd mis Ebrill.

Awst ydy enw prosiect diweddaraf Cynyr Hamer, sy’n gyfarwydd fel aelod o’r bandiau Worldcub (CaStLeS gynt), Hippies vs Ghosts ac We Are Animal.

Mae Cynyr wedi bod yn brysur yn ysgrifennu ac yn recordio caneuon newydd ers haf 2020, ac yn ôl y cerddor cynhyrchiol gallwn ddisgwyl tipyn o gynnyrch ganddo dros y misoedd nesaf, gan ddechrau gyda’r sengl newydd ar 23 Ebrill.

Sengl ddwbl fydd y gyntaf – ‘Lloeren’ a ‘Send a Sign to the Satellite’ ydy enwau’r traciau.

Yn ôl Cynyr, ei fwriad ydy “creu llwyth o albymau”, ac mae eisoes wedi recordio dau albwm.

“Dwi wedi cwblhau dau albwm hyd yn hyn a chychwyn ar y trydydd” meddai Cynyr.

“Mae’r albymau hyn yn recordiadau cartref ar recordydd digidol Tasgam, ac ar y cyfan fe’u cedwir bron bob amser i’w ‘take’ cyntaf, er mwyn ceisio dod a’r elfen ddigymell i’r gerddoriaeth.

“Gan bod dim gigs i’w chwarae, dwi wedi bod yn rhoi’r egni ac amser i gyd mewn i recordio!”

Gyda’r sengl ddwbl gyntaf allan ar 23 Ebrill, dywed Cynyr ei fod yn bwriadu rhyddhau rhagor o senglau dros yr haf, gyda’r bwriad o ryddhau’r albwm cyntaf cyn diwedd y flwyddyn.

Bydd ‘Lloeren’ a ‘Send a Sign to the Satellite’ yn cael eu rhyddhau’n ecsgliwsif ar  Bandcamp – bydd cyfle cyntaf i glywed ‘Lloeren’ ar wefan Y Selar cyn y dyddiad cau, felly cadwch olwg ar ein cyfryngau!