Bydd y grŵp o Geredigion, Bwca, yn rhyddhau eu sengl ddiweddaraf heddiw.
‘Pwy Sy’n Byw’n y Parrog?’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y band sy’n cael eu harwain gan y gitarydd a chanwr enigmatig, Steff Rees.
Mae thema’r sengl yn amserol iawn wrth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg baratoi i gynnal rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’ yn Y Parrog , Sir Benfro ar 23 Hydref.
Steff Rees sy’n gyfrifol am gyfansoddi’r gân egnïol, ac fe wnaeth hynny ar ôl ymweld â’r Parrog, sef ardal glan môr pentref Trefdraeth ym mis Mawrth 2018. Er bod Y Parrog yn le mor braf, fe sylwodd Steff fod llawer o’r tai yn wag ac yn ymddangos i fod yn dai haf neu dai gwyliau.
Gan ystyried tranc y Gymraeg yn yr ardal, a’i rwystredigaeth personol wrth geisio prynu tŷ yn ei gynefin yng Ngorllewin Cymru, aeth ati’n syth i ysgrifennu’r gân.
Chwarae yn y rali
Cân roc neu bync-roc 70au ei naws ydy hon sy’n nodweddiadol o gerddoriaeth Bwca. Mae’n cynnwys riff gitâr fydd yn eich gorfodi i symud, a geiriau grymus sy’n awgrym o ddylanwadau amrywiol Steff o’r gorffennol a’r presennol.
Mae gweddill aelodau Bwca hefyd yn rhoi eu stamp eu hunain ar y gân gyda’u hofferynnau pres sy’n rhan amlwg o nifer o ganeuon eraill y grŵp.
Recordiwyd y sengl yn Stiwdio Sain, Llandwrog, yn ystod gaeaf 2019-20 gydag Ifan Jones ac Osian Williams o gwmni cynhyrchu Drwm wrth y ddesg.
Yn ogystal â Steff ei hun sy’n canu a chwarae’r gitâr a sacsoffôn, mae’r recordiad yn cynnwys cyfraniadau Rhydian Meilir Pughe ar y drymiau, Nic Davalan ar y gitâr fas, Ffion Evans ar y trwmped ac Ifan Jones sy’n ymddangos fel gitarydd gwadd.
Bydd y sengl yn cael ei rhyddhau ar label Recordiau Hambon ar 1 Hydref, ychydig wythnosau cyn rali ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth yn y Parrog ar 23 Hydref.
Nod y rali yw ymgyrchu dros ddyfodol cynaliadwy i gymunedau Cymraeg ac mi fydd y gân yn cael ei chwarae ar y dydd.
Roedd cyfle cyntaf i glywed ‘Pwy Sy’n Byw’n Y Parrog?’ ar raglen Lisa Gwilym ar BBC Radio Cymru wythnos diwethaf, a bu Steff ar yr un rhaglen wythnos yma’n sgwrsio gyda Lisa am y gân.