Sengl newydd Derw’n ymdrin ag iselder

Mae’r sengl ddiweddaraf y grŵp pop siambr, Derw, yn mynd i’r afael a’r thema o iselder – pwnc sydd wedi effeithio ar bawb rywdro, ond yn enwedig felly dros y cyfnod diweddar.

‘Ci’ ydy enw’r trac diweddaraf gan Derw sydd allan fory, ac mae’n ddilyniant i’r EP ‘Yr Unig Rai Sy’n Cofio’ a ryddhawyd ym mis Chwefror eleni, ac a gafodd groeso cynnes.

Roedd cyfle cyntaf i glywed y trac ar-lein ar wefan Y Selar yn gynharach wythnos yma.

Sefydlwyd Derw gan ddeuawd mam a mab, y gitarydd Dafydd Dabson a’r delynegydd Anna Georgina, yn dilyn eu llwyddiant wrth gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cân i Gymru 2018.

Elin Fouladi, y gantores Gymraeg/Iraniaidd ydy’r darn arall allweddol o jig-sô Derw – hi sy’n canu i’r grŵp ac mae’n cael ei chefnogi gan  gerddorion eraill amlwg o fandiau Cymreig Zervas a Pepper, Afrocluster a Codewalkers ar y recordiad o ‘Ci’.

Dysgu delio gydag iselder

Gyda’r sengl newydd mae Anna’n ysgrifennu am ddychweliad yr iselder oedd ar ei sodlau yn ei harddegau a sut mae hi wedi dysgu delio gyda hwnnw’n well.

Mae’r gytgan yn apelio at fersiwn iau ohoni gan ddweud bod yna oleuni ar ben draw’r twnnel – ‘Paid bod ofn fy ffrind’.

“Mae’n fater gwahanol i wynebu iselder wrth gychwyn bywyd” eglura Anna wrth drafod y gân.

“Amser dylsai fod yn llawn gobaith ond yn ei le dim ond cysgod ansicrwydd a hunan amheuaeth, na’i wynebu yn hwyrach mewn bywyd a droiodd allan yn hapus.”

Wrth i lawer o grwpiau fanteisio ar y cyfle am saib, cafodd Derw gyfnod clo prysur, gan ffilmio cyfres o fideos byw yn stiwdio Acapela, Pentyrch a hefyd yn chwarae eu gigs cyntaf yn Tafwyl a Sesiwn Fawr Dolgellau.

Maent yn tynnu dylanwad gan fandiau pop siambr ac indie fel The National ac yn ei cyfuno gyda llais unigryw Fouladi, mae’r band eisoes wedi eu chwarae gan orsafoedd radio cenedlaethol a lleol ledled Cymru, yn ogystal â chael ei cynnwys mewn cyhoeddiadau poblogaidd Cymraeg Golwg ac Y Selar.

Mae ‘Ci’ allan yn swyddogol ar label Recordiau CEG fory, 24 Medi.