Sengl newydd gan Tesni

Mae’r gantores ifanc o Fôn, Tesni Hughes, wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gwener 5 Chwefror.

‘Atgofion’ ydy enw’r trac newydd sydd allan yn ddigidol ar yr holl lwyfannau arferol.

Mae Tesni, sy’n aelod o’r grŵp Aerobic, wedi dod i’r amlwg fel artist unigol yn ystod 2020 gan ryddhau’r senglau ‘Pell i Ffwrdd’, ‘Fflama i’r Tân’  a ‘Rhai Sydd Ddim Adra’ yn ystod y flwyddyn.