Mae Geraint Rhys wedi rhyddhau ei sengl Gymraeg newydd heddiw.
‘Gyda Ni’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y canwr-gyfansoddwr cynhyrchiol o Abertawe, ac yn wir mae’r gân yn deyrnged i’r ddinas mae’n byw ynddi.
Un peth sy’n sicr am Geraint Rhys ydy’r ffaith nad yw’n ofni arbrofi gyda genres gwahanol er mwyn darganfod yr un iawn i adlewyrchu themâu ac awyrgylch ei draciau.
Yn ‘Gyda Ni’, mae Geraint yn troi tuag at sŵn mwy pop i adlewyrchu’r awyrgylch hafaidd sy’n wraidd i neges y gân. Trac i danio’r atgofion o fod lawr ar y traeth, gyda’r bobl bwysicaf yn rhyfeddu at natur yw’r sengl newydd.
“Fel rhywun o Abertawe sy’n byw digon agos i’r traeth i gerdded yna, drwy gydol fy oes mae wedi bod yn le i gynnig cysur. Yn enwedig yn ystod y cyfnod clo” meddai Geraint.
“Mae cysylltu gyda natur yn mor bwysig i fi a fy lles meddwl. Fi’n lwcus iawn i fyw yn Abertawe, yn agos i’r 5 milltir o fae sy’n ymestyn o’r dociau i’r Mwmblws.
“Pryd bynnag mae bywyd yn teimlo’n drwm mae dianc i’r traeth yn foddion i’r enaid ac felly fe wnes i ysgrifennu’r trac yma i adlewyrchu’r rhyddid syml sydd yn dod o weld y môr a’r traeth.
“Mae’r geiriau yn rai eitha ysbrydol sydd yn trin y berthynas rhwng pobl a natur fel un sanctaidd a hudol.
“Trwy’r gerddoriaeth dwi hefyd wedi ceisio creu awyrgylch yr haf, a wnes i weithio gyda’r cynhyrchydd Dai Griff i greu trac sydd yn fywiog a llawn gobaith.”