Mae Lleuwen wedi cyd-weithio â’r cynhyrchydd Erin Costello o Ganada i recordio ei sengl ddiweddaraf sydd allan heddiw.
‘Rhosod’ ydy enw’r trac newydd sy’n rhan o brosiect mewn partneriaeth gyda Chelf Cenedlaethol Canada a’r Eisteddfod Genedlaethol.
Mae ‘Rhosod’ yn gân sydd wedi’i chyfansoddi, ei recordio a’i pherfformio o gartref Lleuwen yn Llydaw ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
“Mae’n un o gasgliad o ganeuon sydd wedi bod yn cysgu yn fy macbook ers dechrau’r cyfnod clo” meddai Lleuwen.
Pan ddaeth y cynnig iddi gyd-weithio gyda’r cynhyrchydd Erin Costelo o Ganada, bachodd ar y cyfle i ofyn i Erin gynhyrchu’r gân hon.
Fodd bynnag, yn ôl Erin “roedd Lleuwen wedi cynhyrchu’r gân yn barod”. Penderfynodd y ddwy gadw at y cynhyrchiad gwreiddiol felly gan gadw’r zipper lighter fel offeryn taro, ynghyd â theganau a’r synth o’r 1980au.
Cydnabyddiaeth i gynhyrchwyr benywaidd
Dechrau’r cywaith hwn rhwng y ddau artist yw’r gân hon, ac Erin Costello sydd wedi cymysgu’r trac yn ei stiwdio yn Nova Scotia.
Bu’r ddwy’n cydweithio dros fisoedd o sesiynau Zoom yn rhannu, cynhyrchu a thrafod pa mor rhyfedd yw’r ffaith bod cyn lleied o gerddorion benywaidd yn cael eu cydnabod fel cynhyrchwyr.
Mae Erin yn credu’n gryf ei bod hi’n bwysig i ferched gael cydnabyddiaeth am eu gwaith fel cynhyrchwyr, yn union fel sy’n digwydd gyda chynhyrchwyr gwrywaidd.
“Braf yw cydweithio ar brosiect o statws rhyngwladol sy’n rhoi’r sylw haeddiannol i ni am ein gwaith” meddai Erin.
‘Rhosod’ ydy’r gyntaf o ddwy gân wedi eu cyfansoddi gan Lleuwen mewn cydweithrediad â’r Eisteddfod Genedlaethol a National Arts Centre Canada, gydag Erin Costello wrth y llyw yn cynhyrchu.
Mae ‘Rhosod’ yn unigryw i’r gantores a ddaw’n wreiddiol o Riwlas ger Bethesda yn yr ystyr mai dyma’r gân gyntaf erioed iddi greu ar y piano.
Mae cyfle arbennig i’r cyhoedd gyfrannu at yr ail gân o’r ddwy, ac mae Lleuwen yn galw ar bobl i gysylltu os ydyn nhw am ganu ar y trac. Mae’n chwilio am leisiau o bob math i ymuno â hi ar y gân.
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu drwy e-bost cyn Gorffennaf 21, am fwy o wybodaeth: osywcariad@gmail.comMae ‘Rhosod’ yn arwyddocaol am reswm arall, sef mai hi ydy’r gân gyntaf i’w rhyddhau ar Label Eg sef label cerddoriaeth newydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru.