Sengl newydd Lowri Evans yn rhoi neges glir am argyfwng tai

Mae sengl newydd y gantores o Sir Benfro, Lowri Evans, yn cael ei rhyddhau heddiw ac mae’n amserol iawn wrth i rali fawr gael ei chynnal dros y penwythnos.

‘Hwylio Gyda’r Lli’ ydy enw’r trac diweddaraf gan Lowri, ac mae’n cael ei ryddhau ar label Recordiau Shimi.

Mae thema’r sengl newydd gan Lowri’n un amserol, wrth i’r drafodaeth am y nifer y tai haf a gwyliau sydd mewn rhannau o Gymru fod yn bwnc llosg.

Cafodd Lowri ei geni a’i magu yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, ac mae nifer o’i chaneuon yn ymdrin â’i milltir sgwâr.

Un o’i chaneuon adnabyddus yw ‘Merch y Myny’ sy’n trafod ei magwraeth ar lethrau Carn Ingli a’i pherthynas ddwfn â’i hardal genedigol. Dros y blynyddoedd diwethaf mae yna newid mawr wedi digwydd i natur y gymdeithas yn Nhrefdraeth.

Mae yna dwf anferthol wedi bod yn nifer y tai haf a’r AirBnb’s yn y dref, ac mae canlyniadau hyn wedi creu heriau lu i’r trigolion yn y dref a’r ardaloedd cyfagos. Mae ‘na lai o Gymraeg i’w glywed ar y strydoedd, mae’n amhosib i bobl ifanc brynu tŷ, magu teulu a danfon eu plant i’r ysgol leol.

Mae’r gymuned a fu unwaith yn fywiog yn prysur ddiflannu. Mae hyn wedi digwydd yn barod ym mhentref cyfagos Cwm yr Eglwys.

‘Graen mân’ Y Parrog

Ysgrifennwyd geiriau ‘Hwylio gyda’r lli’ gan Hedd Ladd-Lewis, un arall a fagwyd yn y dref.

Mae’r gân yn sôn am gymuned fach Y Parrog, sef y traeth a’r porthladd ger aber yr Afon Nyfer, fu unwaith yn llawn bywyd. Bellach dim ond ychydig o dai sydd â goleuadau ynddynt, ac unig iawn yw hi i’r ychydig sy’n byw yno gydol y flwyddyn.

Bellach mae’r olaf o’r trigolion ‘fel graean mân’ yn gyflym ddiflannu gyda llif yr afon.

Ymateb Lowri yw’r gân i ddiwedd cymuned fywiog Parrog ei phlentyndod.

Mae dyddiad rhyddhau’r sengl yn cyd-fynd â rali Cymdeithar yr Iaith Gymraeg a gynhelir yn Y Parrog fory, 23 Hydref er mwyn codi ymwybyddiaeth am yr argyfwng tai.

Bydd Lowri’n perfformio’r gân yn ystod y rali, yn ogystal â Bwca a ryddhaodd y sengl ‘Pwy Sy’n Byw’n Y Parrog’ rai wythnosau nôl.