Mae dau gerddor sy’n gyfarwydd iawn a’i gilydd wedi cyd-weithio ar sengl newydd unigryw iawn sydd allan ers dydd Gwener 10 Rhagfyr.
‘Miniyamba / Gadael y Dref’ ydy enw’r sengl gan N’famady Kouyaté a Gruff Rhys.
Cerddor sy’n dod yn wreiddiol o Guinea Conakry ydy N’famady Kouyaté, ac mae wedi bod yn amlwg iawn yn ystod 2021 wrth ryddhau senglau a’r EP ‘Aros i Fi Yna’ ar label Recordiau Libertino.
Roedd yn enw cyfarwydd i lawer o bobl cyn hynny, yn enwedig i rai sydd wedi bod i gigs Gruff Rhys dros y blynyddoedd diwethaf wrth i’r cerddor ei gefnogi’n rheolaidd, a pherfformio fel aelod o fand ffryntman y Super Furry Animals.
Nawr mae’r ddau wedi dod ynghyd eto i recordio a rhyddhau’r trac newydd sy’n fersiwn newydd o gân draddodiadol o Orllewin Affrica sydd â geiriau yn y Gymraeg a’r iaith Malinké.
“Mae ‘Miniyamba / Gadael y Dref’, yr ailweithrediad o’r gân traddodiadol o Orllewin Affrica a hudodd Gruff Rhys ar y daith Pang!, felly mae’n ddewis perffaith ar gyfer y cydweithrediad hwn” meddai N’famady am y sengl.
“Mae’r gân yn disgrifio chwedl hynafol y neidr sydd yn gwarchod pentref, yn gwahardd unrhyw un rhag dod i mewn neu gadael, tan mae merch sydd eisiau priodi yn ceisio bargeinio gyda’r neidr tan ei bod yn cael “Gadael y Dref”.