Sengl rhif 6 gan Sywel Nyw

Mae Sywel Nyw wedi rhyddhau ei chweched sengl o’r flwyddyn, y tro yma ar y cyd â’r actores ac artist Lauren Connelly.

Enw’r trac newydd ydy ‘10/10’ ac mae allan ar label Lwcus T ers dydd Mercher 30 Mehefin.

Mae’r sengl newydd yn rhan o brosiect Sywel Nyw, sef prosiect unigol Lewys Wyn o’r Eira, i ryddhau un sengl bob mis yn ystod 2021, gan gyd-weithio ag artistiaid gwahanol bob tro.

Mae eisoes wedi rhyddhau senglau blaenorol gyda Mark Roberts, Casi Wyn, Gwenno Morgan, Gwenllian Anthony o’r grŵp Adwaith a Glyn Rhys-James o’r grŵp Melt.

Rydym bellach hanner ffordd drwy’r flwyddyn ac felly hanner ffordd drwy’r gyfres o senglau ac y tro hwn mae wedi troi at dalentau’r actores ac artist, Lauren Connelly, sy’n poeri llif ei meddwl dros guriadau byrlymus y gerddoriaeth.

Mae geiriau Lauren yn ffraeth, yn amrwd, yn onest ac yn ddi-flewyn ar dafod.

“Ni gyd yn cael pethau ni eisiau dweud ond ddim” meddai Lauren.

“Cefais fy ysbrydoli gan wefan sy’n postio quotes o pethau mae pobl go iawn eisiau dweud i bobl yn ei bywydau; pethau doniol a dwys. Dwi’n meddwl mae’n proper diddorol sut ni gyd gyda rhywbeth yn “bubbling” ar ein tafodau.”