Sengl rhif saith gan Sywel Nyw

Mae ymdrech Sywel Nyw i ryddhau trac bob mis, gan gyd-weithio ag artist gwahanol ar bob un, yn parhau wrth iddo ryddhau ei seithfed trac o’r flwyddyn ar 30 Gorffennaf.

Enw’r sengl ddiweddaraf ydy ‘Y Meddwl Lliwgar Yma’, a’r tro hwn mae wedi partneriaethu gyda chanwr egnïol y grŵp o Gaerdydd, Breichiau Hir, sef Steffan Dafydd.

Mae arddull Steffan yn unigryw a thrawiadol ac yn cynnig rhywbeth hollol wahanol i sŵn Sywel Nyw. Mae’r arddull yn wahanol iawn hefyd i’r hyn bydd ffans Breichiau Hir wedi arfer ag ef hefyd, a’i eiriau yn ‘freuddwydiol a hurt’ yn ôl y ddeuawd.

“Trio creu landscape hazy o bethe odd yn cysylltu’n llac iawn yn meddwl fi o’n i, yn mynd am dro yn is-ymwybod fi a gadel i beth bynnag odd yn dod i pen fi fynd lawr ar bapur” meddai Steff.

“O ni moyn creu teimlad o desperately trio cysylltu gyda pobl eraill a’r byd a wedyn cymysgu hwn gyda llif meddwl ynysig unigolyn. O ni’n hoffi’r contrast yma. Nes i dim ond sylwi misoedd ar ôl recordio bod y collaboration yma yn drosiad perffaith am hwn – gyda’r geiriau a’r gerddoriaeth yn cael eu creu ar wahan gan ddau unigolyn gwahanol.”

Mae’r sengl ddiweddaraf, fel y gweddill, allan yn ddigidol ar label Lwcus T.