Sengl Sul y Mamau Hap a Damwain

Mae’r grŵp amgen Hap a Damwain wedi rhyddhau sengl newydd heddiw mewn pryd i ddathlu Sul y Mamau ddydd Sul nesaf.

‘Mam Bach’ ydy enw addas y trac diweddaraf gan brosiect newydd dau o gyn-aelodau’r grŵp o’r 1980au, Boff Frank Bough, Aled Roberts a Simon Beech.

Mae’r trac yn cael ei ryddhau’n ddigidol ar safle Bandcamp Hap a Damwain , ac mae’n damaid i aros pryd nes yr albwm sydd ar y gweill gan y ddeuawd. Mae’r sengle hefyd ar gael i’w ffrydio ar Youtube.

Roedd Hap a Damwain yn weithgar iawn yn ystod hanner cyntaf 2020, gan ryddhau dau EP ar ddechrau’r cyfnod clo, sef ‘Ynysu #1’ a ryddhawyd fis Mai, ac ‘Ynysu #2’ a ryddhawyd ym mis Mehefin.

Enw’r albwm fydd ‘Hanner Cant’, a bwriad y band ydy ei ryddhau ar ffurf CD ddechrau mis Mai, yn benodol i gefnogi ‘Dydd y Gweithwyr’, sef 1 Mai.