Sengl yn flas o EP N’Famady Kouyaté

Bydd sengl gyntaf EP N’Famady Kouyaté yn cael ei rhyddhau ddydd Gwener yma, 16 Gorffennaf.

‘Balafô Douma’ ydy enw sengl y cerddor a ddaw yn wreiddiol o Guinea Conakry, ac mae’n damaid i aros pryd nes rhyddhau ei EP ‘Aros i Fi Yna’ sydd allan ar 30 Gorffennaf ar label Recordiau Libertino.

Bydd enw a cherddoriaeth N’Famady yn gyfarwydd i lawer o bobl sydd wedi bod i gigs Gruff Rhys dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf wrth i’r cerddor ei gefnogi’n rheolaidd, a pherfformio fel aelod o fand ffryntman y Super Furry Animals.

Mae cerddoriaeth N’Famady wedi ei wreiddio yn nhraddodiadau Mandingue ei famwlad yng Ngorllewin Affrica, gyda dehongliadau newydd o fywyd ac egni yn deillio o ddylanwadau indî, pop a jazz ei gartref newydd yng Nghymru.

Cyfieithiad Cymraeg teitl y sengl ydy yw ‘mae’n wych cael chwarae’r balafon’, ac mae’n cynrychioli taith gerddorol N’Famady, o bŵer a chryfder ei etifeddiaeth deuluol i fod yn swyno cynulleidfaoedd yn y DU ac Iwerddon ar daith gyda Gruff Rhys. Dysgodd N’Famady sut i chwarae’r balofon, sef xylophone traddodiadol Affricanaidd, yn blentyn

Cafodd y gân ei recordio yn Rockfield, y stiwdios enwog, gyda’r llais wedi’i recordio yn Guinea.

Mae’r EP yn cynnwys cyfraniadau gan nifer o artistiaid cyfarwydd iawn, sef Gruff Rhys), Lisa Jên Brown (9Bach), a Kliph Scurlock (gynt o The Flaming Lips).

Mae ‘Aros i Fi Yna’ yn gymysgedd llachar o synau a lliwiau, ac yn gyflwyniad swynol a bywiog i artist cwbl ryngwladol.