Sesiwn ‘Ar Dâp’ 3 Hwr Doeth ar alw

Darlledwyd y diweddaraf o’r gyfres Ar Dâp gan Lŵp, S4C nos Fercher diwethaf ac mae’r sesiwn ar gael i’w gwylio ar alw ar y we bellach.

Y grŵp hip-hop o Arfon, 3 Hwr Doeth, oedd y diweddaraf i berfformio fel rhan o gyfres Ar Dâp, sef cyfres gerddoriaeth newydd sy’n cael ei darlledu ar lwyfannau digidol Lŵp.

Cafodd y cyntaf o’r sesiynau hyn gyda 9Bach ei ddarlledu ar 26 Mai, a bydd un sesiwn arall yn y gyfres fer gyntaf, a hwnnw gydag Yr Ods fis Gorffennaf.

Dyma’r sesiwn…ond gyda rhybudd iaith gref!