Mae cyfres Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo o berfformiad sesiwn newydd gan y cerddor ifanc, Dafydd Hedd, ar eu cyfryngau digidol.
Perfformiad o’r gân ‘Cyfarwydd a Phrin’ o albwm diweddaraf Dafydd ydy’r fideo sesiwn, sef un o draciau ei albwm, ‘Hunanladdiad Atlas’, a ryddhawyd ym mis Ebrill 2020.
Er mai dim ond dwy ar bymtheg oed ydy Dafydd, ‘Hunanladdiad Atlas’ oedd ail albwm y cerddor o Fethesda, gan ddilyn ‘Y Cyhuddiadau’ a ryddhawyd ganddo yn 2019.
Er gwaethaf heriau 2020 i gerddorion, mae Dafydd wedi parhau i weithio’n galed gan ddarlledu setiau rheolaidd o adref ar ei gyfryngau digidol.
Dyma’r fideo sesiwn: