Mae Gruff Rhys wedi rhyddhau fideos o berfformiadau byw o rai o ganeuon ei albwm newydd, wedi eu ffilmio yn stiwdios enwog Rockfield.
Rhyddhaodd Gruff ei seithfed albwm unigol, ‘Seeking New Gods’ ddiwedd mis Mai, a llwyddo i gyrraedd rhestr 10 Uchaf Siart albyms Prydain.
Mae’r sesiwn fyw, sy’n cynnwys y caneuon ‘Mausoleum Of MY Former Self’, ‘Hiking In Lightning’ a ‘Loan Your Loanliness’, wedi’i gyhoeddi’n ecsgliwsif ar wefan y cylchgrawn cerddoriaeth Mojo.
Yn ymuno â Gruff ar gyfer y sesiwn fyw mae nifer o’r cerddorion sydd wedi cyfrannu at yr albwm gan gynnwys. Osian Gwynedd, Kliph Scurlock, Stephen Black, Lisa Jên, Mirain Haf Roberts a Gavin Fitzjohn.
Mae Gruff hefyd wedi cyhoeddi manylion dyddiadau a lleoliadau ei daith dros yr Hydref eleni. Bydd hefyd yn chwarae yng ngŵyl Timber Festival fis Gorffennaf.
Manylion gigs Gruff Rhys:
2- Gorffennaf – Timber Festival, Swadlincote
3-5 Medi – Moseley Folk & Arts Festival, Moseley
7 Hydref – Focus Wales, Wrecsam
21 Hydref – Crookes Club, Sheffield
22 Hydref – Storey’s Field Centre, Caergrawnt
23 Hydref – Albert Hall, Manceinion