Sgwrs Selar: Partneriaethau – Cwtsh

Yn y ddiweddaraf o’n cyfres fer o gyfweliadau sain Sgwrs Selar, rydan ni’n cael cyfle i ddal fyny gyda’r grŵp Cwtsh, sy’n rhyddhau eu halbwm cyntaf yr wythnos hon.

Mae’r gyfres yn dilyn y thema o bartneriaethau gan edrych yn benodol ar sut mae artistiaid wedi bod yn cyd-weithio dros y cyfnod diweddar.

Mae Cwtsh yn esiampl sydd bach yn wahanol i’r Sgwrs Selar diweddaraf gyda Mr Phormula a Gwion Afanc, gan eu bod nhw’n ‘grŵp go iawn’ yn hytrach na phartneriaeth newydd, neu collaboration fel petai. Er hynny, maen nhw’n grŵp sydd fwy neu lai wedi ffurfio, neu sefydlu eu hunain o leiaf, ers dechrau’r cyfnod clo flwyddyn yn ôl.

Mae’r tri aelod – Alys, Siôn a Betsan – hefyd yn gerddorion profiadol sydd wedi bod yn aelodau o nifer o fandiau eraill yn y gorffennol, ond sydd wedi gorfod gweithio mewn ffordd wahanol iawn ar eu prosiect diweddaraf.

Mi wnaethon ni gyflwyno Cwtsh yn iawn i chi yn ein darn estynedig wrth iddynt ryddhau eu sengl gyntaf nôl ym mis Mehefin. Roedd yn gyfle grêt i sgwrsio gyda nhw saith mis yn ddiweddarach wrth iddynt baratoi i ryddhau eu halbwm, a mynd o dan groen y profiad o gyfansoddi a recordio fel grŵp yn ystod blwyddyn ryfedd iawn!

Mae albwm, Gyda’n Gilydd, allan yn swyddogol fory, 26 Chwefror, a hynny trwy safle Bandcamp Cwtsh.

Dyma’r sgwrs isod, neu gallwch chwilio am ‘Sgwrs Selar’ ar ba bynnag app podlediadau rydach chi’n defnyddio er mwyn gwrando ar eich ffôn.