Sgwrs Selar: Partneriaethau – Elin Fouladi a Dafydd Dabson (Derw)

Rydan ni wedi cadw golwg fanwl ar ddatblygiad y grŵp pop siambr o Gaerdydd, Derw, yma yn Y Selar ers iddynt ymddangos gyda’u sengl ‘Dau Gam’ nôl ar ddechrau mis Mai llynedd.

Ers hynny, mae addewid o EP gan y grŵp, a ninnau wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am hwn wrth i Covid chwalu’r cynlluniau gwreiddiol, fel rhai pawb arall.

Ond o’r diwedd, mae casgliad byr ‘Yr Unig Rai Sy’n Cofio’ wedi glanio ac mae modd i ni werthfawrogi’r record fel cyfanwaith. Mae modd cael gafael ar yr EP yn ddigidol trwy label Recordiau CEG.

Cyfle perffaith felly i ddal fyny gydag aelodau’r grŵp am sgwrs, ac roedd partneriaeth yr aelodau craidd, Elin Fouladi a Dafydd Dabson, yn berffaith ar gyfer ein cyfres fer o Sgyrsiau Selar yn edrych yn benodol ar bartneriaethau.

Mae newyddion da pellach hefyd, sef bod cyfle cyntaf i weld fideo newydd Derw ar gyfer y trac ‘Mikhail’ ar wefan Y Selar fory (dydd Gwener 5 Mawrth).

Ond cyn hynny, mwynhewch y sgwrs fach ddifyr yma gydag Elin a Dafydd.