Dydd Gwener yma ydy dyddiad rhyddhau casgliad arbennig o fersiynau newydd o draciau albwm Tiwns gan Mr Phormula.
Label Recordiau Afanc, sy’n cael ei redeg gan fois Roughion, sydd wedi curadu’r casgliad newydd sy’n cynnwys ailgymysgiadau o wyth o ganeuon albwm diweddaraf Mr Phormula, a ryddhawyd cyn y Nadolig.
Nod Afanc ydy rhoi llwyfan ehangach i gerddoriaeth electronig, felly maent wedi mynd ati i recriwtio amrywiaeth o’r artistiad gorau o gwmpas o’r genre yn eu tyb nhw i weithio ar draciau’r meistr hip-hop Cymraeg.
I ddysgu mwy am y prosiect, penderfynodd Y Selar drefnu sgwrs gyda Mr Phormula, sef Ed Holden wrth gwrs, ynghyd â Gwion James o Afanc, i glywed mwy am y prosiect. Ac wrth wneud hynny, dyma benderfynu esgor ar gyfres fer o Sgyrsiau Selar lle byddwn yn dod â dau artist sydd wedi cyd-weithio’n ddiweddar ynghyd i drafod eu prosiectau.
Gwrandewch ar y sgwr isod, neu chwiliwch am ‘Sgwrs Selar’ ar ba bynnag app podlediadau sydd ar eich ffôn.
Cerddoriaeth intro: ‘More To This’ – Mr Phormula (Sachasom remix)