Shamoniks ac Eädyth nôl yn cydweithio

Mae’r gantores electronig Eädyth a’r cynhyrchydd Shamoniks wedi dod ar ei gilydd unwaith eto i recordio a rhyddhau eu sengl newydd.

‘Dewisiadau Negyddol’ ydy enw’r trac newydd gan y ddau sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 11 Mehefin.

Shamoniks ydy prosiect cynhyrchu’r cerddor Sam Humphreys, sy’n gyfarwydd hefyd fel aelod o’r grwpiau gwerin Calan, Pendevig a NoGood Boyo.

Mae’n disgrifio ei hun fel ‘cynhyrchydd a chydweithredwr cerddoriaeth electronig arbrofol’, ac yn sicr mae wedi bod yn gydweithredol iawn dros y flwyddyn a mwy diwethaf gan ryddhau cerddoriaeth gyda llu o artistiaid amrywiol.

Y tro hwn, mae’n troi nôl at ei bartneriaeth lwyddiannus gydag Eädyth a’i llais grymus. Er iddynt gydweithio’n gyson yn y gorffennol, dyma’r tro cyntaf i’r pâr gydweithio yn 2021, a’r tro cyntaf ers rhyddhau eu sengl ddwyieithog ‘Diogel / Safe’ ym mis Gorffennaf 2020.

Deuawd cynhyrchiol

Mae’r pâr yn dangos eu dylanwadau amrywiol trwy gymysgu curiadau a bas gydag UK Garage Shamoniks gyda synau cerddoriaeth y byd sydd wedyn yn cael eu cyfuno â chyflwyniad lleisiol RnB / neo soul cynnes Eädyth.

Mae Shamoniks yn dangos yn benderfynoldeb i beidio â gadael i’r byd bregus o’i gwmpas ddechrau cloi ar ei greadigrwydd.

Hon fydd y bedwaredd sengl ar ddeg iddo ryddhau ers Mawrth 2020 gyda mwy wedi’i drefnu yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar ôl ysgrifennu dros 70 o ddarnau o gerddoriaeth ers y clo cyntaf.

Mae Eädyth hithau wedi bod un o gerddorion mwyaf cynhyrchiol y flwyddyn ddiwethaf hefyd gan ryddhau cerddoriaeth unigol yn ogystal â chydweithio gyda cherddorion fel Izzy Rabey ac Endaf.

Mae geiriau Eadyth yn adlewyrchu ar gyfnod lle bu llawer o hunan-amheuaeth ynghylch y dyfodol ond hefyd sut y daeth allan o sefyllfaoedd negyddol oherwydd ei bod o gwmpas yr egni cadarnhaol o amgylch tirwedd de Cymru.

“Rydw i wir wedi mwynhau gwneud cerddoriaeth ac ysgrifennu gan ddefnyddio’r emosiynau rydw i’n eu teimlo ar hyn o bryd i greu naws i’r gân ac rydw i bob amser yn mwynhau ysgrifennu o amgylch curiadau trwstan, taranllyd” meddai Eädyth.

Cafodd ‘Dewisiadau Negyddol’ yn cael ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Sian Eleri (gydag Ifan Davies yn cyflwyno) ar BBC Radio Cymru wythnos diwethaf, ac roedd Shamoniks yn westai ar y sioe hefyd.