Shamoniks yn ailgymysgu ‘Dim ond Dieithryn’

Lisa Pedrick ydy’r artist diweddaraf i’r cynhyrchydd gweithgar Shamoniks gydweithio â hi, wrth iddo ailgymysgu un o’i thraciau amlycaf.

Ailgymysgiad ydy sengl newydd y ddau o drac ‘Dim ond Dieithryn’ a ryddhawyd ar EP Lisa Pedrick llynedd.

Ar ôl egwyl hir o’r diwydiant cerddoriaeth, cafodd Lisa Pedrick o Waun-Cae-Gurwen flwyddyn brysur iawn yn 2020.

Daeth i’r amlwg eto gyda’i sengl gyntaf ers blynyddoedd, ‘Ti yw fy Seren’, a ddaliodd y sylw’n syth a chael ei dewis  fel Trac yr Wythnos Radio Cymru.

Dilynodd ail sengl, ‘Icarus’, ac yna’r sengl ‘Dim Ond Dieithryn’ ym mis Awst 2020, cyn iddi ryddhau’r EP o’r un enw ym mis Tachwedd.

Roedd yr EP yn boblogaidd iawn, gymaint felly nes cipio teitl y ‘Record Fer Orau’ yng Ngwobrau Selar ychydig fisoedd yn ddiweddarach ym mis Chwefror 2021.

Cyntaf o brosiectau cydweithio

Shamoniks

Ar ôl blwyddyn o weithio’n ddiwyd ar ddeunydd newydd, nod Lisa ar gyfer 2021 yw gweithio gyda cherddorion o Gymru y mae’n eu hedmygu.

Y cyntaf o’r prosiectau hyn yw ailgymysgiad gan Shamoniks o’i hoff sengl, ‘Dim ond Dieithryn’

“Dim ond Dieithryn yw fy hoff sengl” meddai Lisa.

“Rwy’n hynod o falch o gael cyfle i gydweithio gyda Shamoniks, mae’r fersiwn ddiweddaraf yn rhoi gwedd newidiad i’r trac ac yn cyrraedd cynulleidfa ehangach.”

Mae Shamoniks yn defnyddio ei arddull gynhyrchu unigryw o synau bas brwnt, curiadau electroneg gydag arpeggio’s yn chwyrlïo i ddarparu realiti amgen i berfformiad gwreiddiol pwerus Lisa.

Mae’r rhain gyda’i gilydd, yn creu anthem ddyrchafol yn barod ar gyfer lloriau dawns yr haf hwn.

‘Dim ond Dieithryn’ Lisa Pedrick x Shamoniks, yw’r gerddoriaeth gyntaf a ryddhawyd gan Lisa Pedrick yn 2021 gyda mwy i ddod yn ddiweddarach yn y flwyddyn wrth i’r pâr weithio ar fwy o ddeunydd.

Prif lun: Lisa Pedrick gyda’r gwobr ‘Record Fer Orau’, Gwobrau’r Selar