Shamoniks yn cyd-weithio gyda Swagath

Mae cynnyrch diweddaraf y cynhyrchydd Shamoniks yn ei weld yn cyd-weithio gyda’r artist hip-hop o Gaernarfon, Swagath.

Rhyddhawyd sengl newydd y ddau gerddor, sef ‘Am Ba Hyd’, ar label Recordiau UDISHIDO ddydd Gwener diwethaf, 19 Chwefror.

Shamoniks

Shamoniks ydy’r cerddor a chynhyrchydd Sam Humphreys, sydd hefyd yn aelod o’r grwpiau gwerin Calan, Pendevig a NoGood Boyo.

Daw hyn yn dilyn gwaith diweddar Shamoniks gyda’r gantores Mali Hâf, gyda’r sengl ‘Ffreshni’ a ryddhawyd ym mis Ionawr, a’r sengl DNB diweddaraf ‘Shout’ gyda Bouff.

Mae Shamoniks hefyd wedi cyd-weithio’n helaeth gyda’r gantores Eädyth, gan ryddhau cyfres o senglau ynghyd â’r albwm ‘Keiri’ a ryddhawyd yn Awst 2019.

Ar gyfer ei sengl ddiweddaraf mae wedi partneriaethu gyda’r prosiect hip-hop Swagath, sy’n cael ei arwain gan Helena Emily.

Swagath ydy grŵp hip-hop diweddaraf Gogledd Cymru ac mae’n brosiect personol gan Helena lle mae hi’n croesawu’r cyfle i MCs lleol ac artistiaid rap fel ei gilydd uno a symud ymlaen.

Mae Helena’n darparu platfform lle gall cynhyrchwyr ac MCs greu a pherfformio fel rhan o dîm Swagath, a thrwy hyn ddod â’r diwylliant tanddaearol ynghyd i ysbrydoli ac addysgu’r llu.

Cyd-weithio o hirbell

Recordiwyd ‘Am Ba Hyd’ yn ystod y clo mawr cyntaf ac mae’n nodi gwawr cyfnod newydd yn eu cydweithrediad, er nad yw’r pâr wedi llwyddo i gwrdd yn y cnawd eto oherwydd cyfyngiadau Covid.

Helena – Swagath

Er hynny mae’r ddeuawd wedi manteisio’n llawn ar y cyfryngau digidol trwy gydol y broses.

“Nes i roi shout out am MCs Cymraeg ar insta story fi ac nath enw Helena ddod i fyny” eglura Sam.

“…felly nes i jyst gyrru DM iddi efo esiamplau o fy ngwaith i weld os oedd hi efo diddordeb.

“Ar ôl cael ymateb positif yn ôl ganddi, nes i wneud trac newydd a gyrru hwnnw draw iddi.”

Un her yn y broses oedd nad oedd gan Helena fynediad i stiwdio, felly bu’n rhaid iddi recordio ei darnau hi ar beiriant recordio llaw a gyrru’r ffeiliau yn ôl i Sam roi popeth at ei gilydd.

“Mae o wedi gweithio allan yn cŵl yn y diwedd dwi’n meddwl…neu gobeithio!”

Mwy i ddod

Yng ngeiriau’r sengl, mae Swagath yn cymryd dylanwadau o faterion personol ynghyd â chipio hanfod Gogledd Cymru ac adleisio lleisiau a brwydrau pobl.

Nid dyma ddiwedd cyd-weithio rhwng y ddau, ac mae Shamoniks eisoes wedi anfon trac arall i Swagath weithio arno.

“Da’ ni dal yn broses exciting o agor yr emails a gwrando ar y files am y tro cyntaf!

“Da’ ni yn neud mwy, dwi wedi gyrru’r trac nesaf draw iddi’n barod i neud y broses i gyd eto felly bydd y nesaf i ddilyn rhywbryd yn yr haf.”

Yn sicr edrychwn ni ymlaen at weld hynny, ond am y tro gallwn ni fwynhau ‘Am Ba Hyd’:

Prif Lun: Swagath