Mae’r cynhyrchydd Shamoniks wedi bod yn hynod weithgar yn ddiweddar, ac mae ei sengl ddiweddaraf yn gywaith gyda’r emcee bariton o Gaerdydd, Skunkadelic.
Mae Shamoniks (Sam Humphreys, hefyd o’r grŵp Calan) wedi rhyddhau senglau gyda Swagath, Eädyth, Mali Hâf a Bouff yn ddiweddar ac mae’r sengl newydd gyda Skunkadelic, sef ‘Who’s To Blame’, allan ers dydd Gwener diwethaf, 12 Mawrth.
Mae Skunkadelic yn gyfarwydd hefyd fel sylfaenydd y grŵp Afrofunk / hip-hop o Gaerdydd, Afro Cluster, ond dyma’r tro cyntaf iddo gyd-weithio gyda Shamoniks.
Taniwyd perthynas y ddau gan brosiect o’r enw ‘Pump’. Prosiect oedd hwn wedi’i ariannu gan grant cynaliadwyedd Cyngor Celfyddydau Cymru, wedi’i greu a’i guradu gan Gerard KilBride, sef hyrwyddwr, cynhyrchydd, cerddor a luthier.
Pwrpas y prosiect ‘Pump’ ydy creu 5 darn o waith newydd, 5 partneriaeth newydd, a chreu posibiliadau diddiwedd.
Yn cadw treftadaeth gerddorol sydd wedi’i siapio gan oes euraidd hip hop ac wedi’i gwreiddio yn ei barth teuluol yn Nigeria, mae Skunkadelic yn sianelu angerdd amrwd, profiadau helaeth a dyfeisgarwch mewn i bob odl.
Yna, mae hyn i gyd yn cael eu gweu mewn i baled arbrofol Shamoniks, sydd y tro hwn, yn cynnwys Saz Twrcaidd a thelyn Geltaidd. Mae’r rhain yn cael eu cyfuno â’i guriadau ffyrnig a’i synau bas ymosodol i ofyn y cwestiwn i bawb, pwy sydd ar fai mewn gwirionedd?
Er gwaethaf ei brysurdeb diweddar, does dim arwydd y bydd Shamoniks yn arafu’n fuan ac mae eisoes wedi cyhoeddi manylion tair sengl arall fydd allan ganddo dros y mis nesaf. gyda Mali Haf, Tom Macaulay ac Eädyth.