Mae’r ddeuawd brawd a chwaer o Lanuwchllyn, Siddi, wedi cydweithio â chantores o Awstralia, Siobhan Owen, ar gyfer eu sengl newydd.
‘Matholwch’ ydy enw’r trac newydd sydd wedi’i ysbrydoli gan un o lawysgrifau enwocaf Cymru ac sy’n rhan o brosiect gan yr Eisteddfod Genedlaethol i bontio Cymru ac Awstralia.
Siddi ydy prosiect Osian Huw Williams (Candelas) a’r chwaer Branwen Williams. Maent wedi cyfansoddi’r gân newydd ar y cyd â’r delynores a chantores Geltaidd Siobhan Owen, sydd â’i gwreiddiau yng Nghymru ond sydd bellach yn byw yn Awstralia ac yn teithio ledled y byd â’i cherddoriaeth.
Cafodd y tri eu cyfareddu gan y straeon yn Llyfr Gwyn Rhydderch, diolch i Maredudd ap Huw o Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae’r sengl ‘Matholwch’ ar gael yn ddigidol yn y mannau arferol, a hynny trwy label EG, sef label newydd yr Eisteddfod Genedlaethol, a label Siddi, Recordiau I KA CHING.
“Ry’n ni wedi bod yn gweithio gyda Gŵyl Geltaidd Genedlaethol Awstralia ers peth amser, ac mae wedi bod yn bleser creu’r cywaith rhwng Siddi a Siobhan Owen” meddai Trefnydd a Phennaeth Artistig yr Eisteddfod, Elen Elis,
“Mae’u cerddoriaeth nhw’n asio’n berffaith gyda’i gilydd ac mae’r ffaith eu bod nhw wedi’u hysbrydoli gan un o’n llawysgrifau mwyaf gwerthfawr fel cenedl wedi rhoi cyfle i ni edrych ar y chwedlau a’r cymeriadau mewn ffordd hollol ffresh a newydd.
“Ry’n ni’n edrych ymlaen at weld sut mae’r prosiect yma’n datblygu ymhellach dros y misoedd nesaf, ac ry’n ni hefyd yn teimlo’n gyffrous iawn fod y gerddoriaeth yn cael ei ryddhau ar label gerddoriaeth newydd yr Eisteddfod, Label EG, a chyda label Siddi, Recordiau I Ka Ching.”
Bydd cân arall o’r cywaith, ‘Cylch Casineb’, yn cael ei rhyddhau’n fuan.
Mae fideos ar gyfer y ddwy gân ar gael i’w gwylio ar sianel YouTube yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda’r fideo ar gyfer ‘Matholwch’ wedi’i greu a’i gyfarwyddo gan Jonny Reed.