Sioe Cabarela newydd ar gyfer Eisteddfod Amgen

Bydd sioe Cabarela newydd yn cael ei pherfformio fel rhan o’r Eisteddfod AmGen eleni. Eisteddfod AmGen ydy’r gweithgarwch sy’n cael ei drefnu yn ystod wythnos gyntaf mis Awst er mwyn llenwi bwlch yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cabarela ydy’r sioe cabaret boblogaidd sy’n cael ei harwain gan y grŵp harmoni lleisiol, Sorela, sef y tair chwaer Lisa Angharad, Gwenno Elan, Mari Healy. Mae Cabarela wedi cynnal cyfresi o deithiau Nadolig yn y gorffennol, yn ogystal â sioeau arbennig mewn digwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol dros y blynyddoedd diwethaf a chael ymateb ardderchog.

Ar nos Wener 6 Awst, mae’n debygol y bydd cartrefi a gerddi ar hyd a lled Cymru’n cael eu taro gan byliau afreolus o chwerthin a mwynhad wrth i griw Cabarela berfformio sioe newydd sbon yn fyw o Ganolfan yr Egin yng Nghaerfyrddin!

Ac mae cyfle i unrhyw un ymuno â’r hwyl, gyda thocynnau i sioe Cabarela Coll, sy’n gyd-gynhyrchiad gan yr Eisteddfod ac Yr Egin, eisoes ar werth ers dydd Iau 1 Gorffennaf ar wefan yr Eisteddfod. Mae’r trefnwyr yn addo sioe sy’n cynnig golwg unigryw ar bopeth eisteddfodol a mwy!

Gyda’r un criw ag arfer wrth y llyw, ‘does wybod beth sydd i ddod, ac maent wedi bod wrthi’n brysur yn ysgrifennu a chreu ers peth amser fel yr eglura Lisa Angharad…

“Wedi diflasu fod ‘na ddim ‘Steddfod am yr ail flwyddyn yn olynol?  Dim panics!  Mae Cabarela yma i’ch atgoffa chi o holl ogoniant ein hoff ŵyl ni gyda rhaglen bigion unigryw!” meddai Lisa.

“Ry’n ni am i Gymru fynd yn wyllt nos Wener 6 Awst – o fewn y cyfyngiadau wrth gwrs – wrth i ni ddod â’n sioe newydd i gartrefi a gerddi ar draws y wlad, gan roi cipolwg o’r ‘Steddfod mewn ffordd wahanol a chreu ‘bwrlwm i’r ŵyl’ na welwyd ei debyg erioed o’r blaen.  Ac wrth gwrs, ‘dyw’r un ‘Steddfod yn gyflawn heb griw o feirniaid, ac ar y noson, y chi fydd ein beirniaid ni, wrth i ni eich gwahodd chi i roi’ch barn ar y sioe yn fyw yn Yr Egin!”

Y cast eleni yw Lisa Angharad, Gwenno Elan, Mari Healy, Elain Llwyd, Miriam Isaac, Meilir Rhys Williams, Iestyn Arwel, Trystan Llŷr Griffiths a Jess Robinson, gydag ambell westai arbennig iawn.

Mae tocynnau Cabarela Coll ar gael o wefan yr Eisteddfod ers 1 Gorffennaf, ac yn costio £20 y cartref neu sgrin.  Bydd y sioe yn cael ei ffrydio’n fyw ar blatfform AM.  Rhagor o fanylion ar wefan yr Eisteddfod ac Yr Egin.

Mae’r Eisteddfod yn rhybuddio nad yw’r sioe yma’n addas ar gyfer plant na phobl gul.

Cynhelir Eisteddfod AmGen eleni ar draws pob platfform a chyfryngau o 31 Gorffennaf – 7 Awst.  Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr Eisteddfod.