Mae’r canwr-gyfansoddwr Al Lewis wedi cyhoeddi bydd ei sioe Nadolig flynyddol yn dychwelyd eleni ar ôl blwyddyn o saib yn 2020.
Mae Al yn cynnal y sioe Nadolig yn Eglwys Sant Ioan, Treganna, ers sawl blwyddyn bellach ac mae’r digwyddiad wedi datblygu i fod yn un o uchafbwyntiau cerddoriaeth fyw tymor y Nadolig yng Nghymru.
Bydd y sioe yn cael ei chynnal ar ddwy noson eleni sef nos Wener 10 Rhagfyr a nos Sadwrn 11 Rhagfyr ac mae’r tocynnau eisoes ar werth am £20 yr un.
Daw’r newyddion yn fuan ar ôl i Al ryddhau ei sengl ddiweddaraf, ‘Sunshine in Sorrow’, sef fersiwn Saesneg o’r gân Gymraeg wreiddiol, ‘Heulwen mewn Hiraeth’ ar 10 Medi. Ac mae’r cerddor o Abergele’n edrych ymlaen yn fawr at allu croesawu cynulleidfaoedd yn ôl i’w gyngerdd Nadolig.
“Ma hi’n deimlad braf iawn medru deud bod y cyngherddau ‘Dolig sydd bellach yn draddodiad i fi a’r band, yn ôl eleni” meddai Al wrth Y Selar.
“Heblaw am un gig wnes i tu allan i’r Ganolfan Gelfyddydau yn Aberystwyth dros yr haf, dyma fydd fy nghyfle cyntaf i fod mewn stafell efo cynulleidfa glud. Dwi’n edrych mlaen yn arw.”
Mae tocynnau ar gyfer y ddwy noson ar werth nawr ar wefan Al Lewis.
Rhy fuan am gân Nadolig?